{"id":467,"date":"2022-06-13T16:29:16","date_gmt":"2022-06-13T15:29:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/funding\/"},"modified":"2024-10-28T12:49:15","modified_gmt":"2024-10-28T12:49:15","slug":"cymru","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/cymru\/","title":{"rendered":"Cymorth Cymru gyfan"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:500px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\"><\/span><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"483\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-338 lazyload\" alt=\"\" data-src=\"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-1024x483.jpg\" data-object-fit=\"cover\" data-srcset=\"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-1024x483.jpg 1024w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-300x141.jpg 300w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-768x362.jpg 768w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-1536x724.jpg 1536w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-24x11.jpg 24w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-36x17.jpg 36w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding-48x23.jpg 48w, https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/banner-funding.jpg 1600w\" data-sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" style=\"--smush-placeholder-width: 1024px; --smush-placeholder-aspect-ratio: 1024\/483;\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-flow wp-block-cover-is-layout-flow\">\n<h1 class=\"wp-block-heading alignwide has-text-align-center\">Cymorth i Gymru gyfan<\/h1>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych yn dymuno \u00f4l-osod eich cartref, neu ei wella, yna mae yna gost ariannol ynghlwm. Wrth osod mesurau sy&#8217;n creu cartref iach ac effeithlon, mae yna fuddion ariannol ac amgylcheddol hirdymor. Serch hynny, mae&#8217;r costau cysylltiedig yn gallu atal llawer o gartrefi rhag gweithredu, yn enwedig yn ddiweddar gyda\u2019r argyfwng costau byw ar ein gwarthaf. Felly, mae Cartrefi Clyd wedi coladu gwybodaeth am y nawdd a&#8217;r cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd i aelwydydd ledled Cymru. Byddwn yn diweddaru&#8217;r dudalen hon os bydd mesurau cymorth eraill yn cael eu cyflwyno i helpu aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynlluniau cyllido<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cartrefi Gwyrdd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn gynllun gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi\u2019i reoli gan Fanc Datblygu Cymru. Mae\u2019r cynllun wedi\u2019i lunio i gefnogi pobl wrth iddyn wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i\u2019w cartrefi. Mae\u2019r cynllun yn cynnig arian di-log a chyngor arbennigol, sy\u2019n helpu pobl i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan: <a href=\"https:\/\/developmentbank.wales\/green-homes-wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/developmentbank.wales\/green-homes-wales<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">NYTH<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw NYTH. Mae ar gael i aelwydydd yng Nghymru sy&#8217;n cael budd-daliadau sy&#8217;n dibynnu ar brawf modd, ac sy&#8217;n berchen yn breifat ar eiddo domestig neu\u2019n rhentu eiddo domestig yn breifat. Yn ogystal, rhaid bod gan yr eiddo sg\u00f4r effeithlonrwydd ynni F neu G, a fyddai&#8217;n dangos bod effeithlonrwydd ynni&#8217;r cartref yn isel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff cartrefi eu hasesu&#8217;n unigol er mwyn penderfynu pa fesurau effeithlonrwydd ynni y mae eu hangen a pha fesurau fyddai fwyaf effeithiol. Gallai&#8217;r rhain gynnwys mesurau fel inswleiddio, atal drafftiau a gosod boeler newydd. Nwy Prydain fydd yn gosod y mesurau arbed ynni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am ragor o wybodaeth am gynllun Nyth, rhowch glic ar <a href=\"http:\/\/www.nyth.llyw.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.nyth.llyw.cymru<\/a> neu ffoniwch 0808 808 2244<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ein hadran am gyllid sydd ar gael ymhob ardal awdurdod lleol, mae yna wybodaeth am gynlluniau sy&#8217;n seiliedig ar gyllid Rhwymedigaeth Cwmn\u00efau Ynni, sydd hefyd yn cynnig cymorth i&#8217;r rheiny sydd ag incwm isel ac sy\u2019n byw mewn cartrefi anodd eu trin.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Cynllun Uwchraddio Boeleri<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y Cynllun Uwchraddio Boeleri yw&#8217;r unig gynllun gwella ynni yn y cartref y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ar hyn o bryd, sydd ddim yn seiliedig ar brawf modd. Mae&#8217;r cynllun hwn ar gael i bobl sy&#8217;n gosod pympiau gwres yng Nghymru a Lloegr, ac mae\u2019n cynnig \u00a37,500 o flaen llaw ar gyfer pympiau gwres o\u2019r awyr neu bympiau gwres o\u2019r ddaear, neu \u00a35,000 tuag at boeler biomass.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaid ymgeisio i&#8217;r cynllun trwy eich gosodwr, ac felly eich cam cyntaf yw dod o hyd i osodwr. Rhaid iddo fod ag achrediad MCS. Gallwch ddod o hyd i osodwyr lleol ag achrediad MCS ar wefan MCS <a href=\"https:\/\/mcscertified.com\/\">https:\/\/mcscertified.com\/<\/a>. Bydd y gosodwr yn eich arwain chi drwy&#8217;r broses.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd arnoch angen Tystysgrif Perfformiad Ynni o dan 2 flwydd oed, felly os nad oes un gennych bydd gofyn i chi ei chomisiynu yn gyntaf. Ni ddylai&#8217;r Dystysgrif Perfformiad Ynni fod yn argymell inswleiddio waliau ceudod nac inswleiddio llofft, ac felly efallai y bydd gofyn i chi wneud rhywfaint o waith cyn ceisio am y Dystysgrif Perfformiad Ynni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna rai gosodiadau sydd ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun, er enghraifft gosod pympiau gwres newydd yn lle hen rai a phympiau gwres hybrid (os oes boeler tanwydd ffosil gennych hefyd). Os oes eiddo&#8217;n cael ei adeiladu o&#8217;r newydd, bydd yn gymwys dim ond i&#8217;r rheiny sydd wedi comisiynu eu cartrefi eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd, mae yna ddigon o arian yn y cynllun i ariannu 30,000 o osodiadau&#8217;r flwyddyn yn unig, ac mae hyn yn cynnwys gosodiadau ar gyfer busnesau bach. Felly, mae&#8217;r arian yn y cynllun yn debygol o ddod i ben o bryd i&#8217;w gilydd, nes i&#8217;r llywodraeth roi mwy o arian i mewn iddo.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gostyngiad ar TAW ar fesurau sy&#8217;n arbed ynni<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er nad cyfle am nawdd yw hwn, mae trysorlys y DU wedi cyhoeddi cyfradd sero ar gyfer TAW wrth osod deunyddiau sy&#8217;n arbed ynni pan fydd y gwaith yn cael ei wneud&nbsp; ar \u00f4l 1 Ebrill 2002 a hyd nes 31 Mawrth 2027, yn cynnwys y dyddiad hwnnw. Cewch ragor o wybodaeth, a manylion yr hyn sy&#8217;n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn ar dreth TAW, <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/vat-on-energy-saving-materials-and-heating-equipment-notice-7086#full-publication-update-history\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os ydych yn dymuno \u00f4l-osod eich cartref, neu ei wella, yna mae yna gost ariannol ynghlwm. Wrth osod mesurau sy&#8217;n creu cartref iach ac effeithlon, mae yna fuddion ariannol ac amgylcheddol hirdymor. Serch hynny, mae&#8217;r costau cysylltiedig yn gallu atal llawer o gartrefi rhag gweithredu, yn enwedig yn ddiweddar gyda\u2019r argyfwng costau byw ar ein [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-467","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=467"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2266,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467\/revisions\/2266"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=467"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}