{"id":2058,"date":"2024-04-29T18:22:19","date_gmt":"2024-04-29T17:22:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cartrefi-clyd-offers-something-different-dewi-williams-project-co-ordinator\/"},"modified":"2024-04-29T18:29:06","modified_gmt":"2024-04-29T17:29:06","slug":"cartrefi-clyd-offers-something-different-dewi-williams-project-co-ordinator","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/cartrefi-clyd-offers-something-different-dewi-williams-project-co-ordinator\/","title":{"rendered":"\u201cMae Cartrefi Clyd yn Cynnig Rhywbeth Unigryw\u201d \u2013 Dewi Williams, Cydlynydd Prosiect"},"content":{"rendered":"\n<h1 class=\"wp-block-heading\">\u201cMae Cartrefi Clyd yn Cynnig Rhywbeth Unigryw\u201d \u2013 Dewi Williams, Cydlynydd Prosiect<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dw i wedi bod eisiau gweithio yn y sector gwyrdd cymunedol ers tipyn, gan ddilyn gwaith Ynni Cymunedol Cymru, YnNi Teg, Datblygiad Egni Gwledig a grwpiau lleol eraill i mi yng Nghaernarfon. Dw i wastad wedi cael fy nharo gan y gwerthoedd sy\u2019n rhan o\u2019u gwaith \u2013 cydweithio, rhoi pobl yn gyntaf, a gweithio nid-er-elw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cael y cyfle i ymuno \u00e2 th\u00eem Cartrefi Clyd wedi dod ar yr amser gorau i mi. Mae\u2019n teimlo fel cyfle unigryw ar gyfer yr hyn sy\u2019n digwydd heddiw. Rydym yn gweld y sector ynni\u2019n datblygu\u2019n gyflym ynghyd ag effaith andwyol tanwyddau ffosil ar biliau ynni. Does gennym ni ddim dewis amgen ond i fod yn fwy effeithlon o fewn ein cartrefi a defnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer defnydd bob dydd. Rydym eisiau i gymunedau Cymru bod yn fwy hunan-gynhaliol ac yn llai dibynnol ar ffynonellau ynni allanol. Yn anffodus, nid oes llawer o gefnogaeth ar gyfer cartrefi a theuluoedd a chymunedau i wneud hyn, felly dyma yw bwriad Cartrefi Clyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan welais i brosiect Cartrefi Clyd am y tro cyntaf, roedd popeth yn gwneud synnwyr.&nbsp;Rwy\u2019n weithgar yn fy nghymuned leol fel cadeirydd pwyllgor y neuadd bentref, ac rwyf wedi cael cynigion nifer o weithiau i wella\u2019r adeiladau drwy gynllun ECO4. Yn anffodus, fel nifer o rai eraill, nid ydym yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mwy a mwy ohonom yn ystyried sut fedrwn ni leihau ein h\u00f4l-troed carbon wrth i enghreifftiau o\u2019u heffeithiau erchyll luosogi bob blwyddyn. Ond mae\u2019r bwlch mewn darpariaeth a chyngor ar gyfer y rheiny ohonom sydd eisiau cymryd camau i ddatgarboneiddio ein cartrefi wedi gadael nifer heb gyfeiriad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma sy\u2019n gwneud Cartrefi Clyd yn wahanol. Mae\u2019n bosib bod rhai wedi clywed am brosiectau \u00f4l-osod blaenorol sydd heb gymryd y gofal sydd gennym ni yn Cartrefi Clyd, gan arwain at niwed i gartrefi a rhagor o gostau drud i bobl. Mae ein haseswyr yn ystyried pob rhan o gyd-destun y cartref \u2013 ei leoliad, beth yw\u2019r hinsawdd sy\u2019n ei amgylchynu, sut mae pobl yn byw ynddo, y deunyddiau mae wedi adeiladu ohonynt, ac ystod eang o ffactorau eraill. Maent wedi cymhwyso\u2019n llawn, ac yn byw ac yn gweithio\u2019n lleol i\u2019r ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu \u2013 Carnarfon, Hermon (Sir Benfro), Caerdydd a\u2019r Drenewydd ar hyn o bryd. Ein gobaith yw i ehangu ein gwasanaeth fel bod mwy o\u2019n cymunedau ni\u2019n gallu gwneud y mwyaf o\u2019n gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn annibynnol, ac wedi ein ffurfio o sefydliadau cymunedol mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Dyma pam rwy\u2019n credu bod Cartrefi Clyd yn darparu rhywbeth unigryw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu asesiad \u00f4l-osod ar gyfer eich cartref, <a href=\"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/cysylltu\/\" data-type=\"page\" data-id=\"463\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a>, ac fe wnawn ni drefnu cael asesydd i gysylltu \u00e2 chi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dw i wedi bod eisiau gweithio yn y sector gwyrdd cymunedol ers tipyn, gan ddilyn gwaith grwpiau ynni lleol i mi yng Nghaernarfon.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2045,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-2058","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2058","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2058"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2058\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2060,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2058\/revisions\/2060"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2045"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2058"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2058"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartreficlyd.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2058"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}