
Cartrefi clyd, iach a charedig i’r blaned.
Mae Cartrefi Clyd yma i helpu chi wneud eich tŷ mor effeithlon, cynnes, iach, a chysurus ag sy’n bosib.
Rydym yn cynnig gwasanaeth gostyngedig i helpu perchnogion cartrefi i baratoi eu tai ar gyfer y dyfodol, tra’n rheoli’r heriau sy’n gallu codi o ôl-osod tai. Yn syml, mae ôl-osod yn meddwl gwella eich cartref i’w wneud mor glyd ag sy’n bosib.

Cartrefi clyd, iach a charedig i’r blaned.
Mae Cartrefi Clyd yma i helpu chi wneud eich tŷ mor effeithlon, cynnes, iach, a chysurus ag sy’n bosib.
Rydym yn cynnig gwasanaeth gostyngedig i helpu perchnogion cartrefi i baratoi eu tai ar gyfer y dyfodol, tra’n rheoli’r heriau sy’n gallu codi o ôl-osod tai. Yn syml, mae ôl-osod yn meddwl gwella eich cartref i’w wneud mor glyd ag sy’n bosib.
Gallwch ddarganfod gwybodaeth ar y wefan hon am gefnogaeth a chyllid ôl-osod, ynghyd ag astudiaethau achos ar sut i ôl-osod gwahanol fathau o gartrefi.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys asesiadau ac adroddiadau ar sut i wneud eich cartref yn glyd, iach a charedig i’r blaned. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael yn ardaloedd penodol o Gymru gan bartneriaeth o fudiadau ynni cymunedol a mentrau cymdeithasol.
Rydym yn cynnig adroddiad ôl-osod wedi’i deilwra ar gyfer eich cartref chi, sydd wedi’i baratoi gan asesydd ôl-osod cymwysiedig. Rydym yn cymryd amser i ddeall eich cartref a’ch anghenion wrth gynnal yr asesiad – dyma’r gwasanaeth Cartrefi Clyd.
Rydym eisiau helpu cynifer o gartrefi ag sy’n bosib, felly rhwng Rhagfyr 2023 ac Awst 2025, bydd ein gwasanaethau ar gael am bris gostyngedig, diolch i gyllid gan yr Energy Industry Voluntary Redress Scheme.
Cysylltwch heddiw i ddarganfod sut fedrwch chi wneud eich cartref mor glyd, iach a chynaliadwy ag sy’n bosib.
Cofrestrwch eich diddordeb

Rydyn ni’n gweithio gyda Cartrefi Gwyrdd Cymru, sef menter gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau ynni effeithlon i’w cartrefi. Mae’r Cynllun yn cynnig cyllid di-log a chymorth arbenigol wedi’i ariannu’n llawn, gan eich helpu i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon.
Ewch draw i’w gwefan i weld a allech fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ac i gofrestru eich diddordeb.
Cartrefi Gwyrdd Cymru – Dev Bank
Rydym yn gasgliad o saith o bartneriad, pob un yn sefydliad nid-er-elw, wedi’u lleoli ym mhob rhan o Gymru.

Awel Aman Tawe
Cwmgors

Community Energy Wales

Cwm Arian Renewable Energy
Crymych

Datblygiad Egni Gwledig
Caernarfon

Lightfoot Enterprises
Y Drenewydd

Rounded Developments
Caerdydd

Swansea Environment Centre

Ynni Llŷn
Pen Llŷn
Fforddiadwy
Rydym yn defnyddio arian o Gynllun Energy Industry Voluntary Redress i wneud asesu eich cartrefi ar gyfer ôl-osod mor fforddiadwy â phosib.
Cysurus
Mae cartrefi wedi’u hôl-osod yn dda’n gynhesach, heb damp a chyda gwell safon aer, sy’n arwain at safon bywyd gwell.
Cynaliadwy
Bydd dilyn eich cynllun ôl-osod personol yn gwneud eich cartref mor effeithlon ag sy’n bosib iddo fod, gan leihau eich ôl-troed carbon.
Rhagor o wybodaeth

Cefnogaeth Gymru gyfan
Dysgwch am gymorth a chyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i ddeiliaid tai yng Nghymru.

Cefnogaeth a chontractwyr Lleol
Manylion sefydliadau yn eich ardal leol a allai helpu gyda chyngor ôl-osod.

Dod o Hyd i Gosodwr
Rydym yn cynnig rhywfaint o gyngor i’ch helpu i ddechrau ar eich chwiliad am osodwyr ôl-osod.

Astudiaethau achos
Astudiaethau achos yn dangos sut y gall ôl-osod wneud i’ch cartref weithio’n well i chi a’r blaned.

Cyngor ôl-osod
Dysgwch fwy am y mathau gwahanol o dechnoleg ôl-osod sydd ar gael, a gweld enghreifftiau.

Cysylltwch â ni
Rydym am helpu cyn gymaint o bobol a phosib i ôl-osod eu tai ac i fod mwy effeithlon o rhan ynni, cysylltwch â ni.

