
CLYD

CLYD
Clyd yw ein gwasanaeth cychwynnol ôl-osod i bobl sydd â diddordeb mewn deall yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw o ran gwella eu tai.
Prif ffocws y gwasanaeth bydd i gael taith a sgwrs am bob agwedd o ôl-osod eich cartref. Byddwn hefyd yn eich darparu chi gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich tŷ sy’n ddilys am 10 mlynedd. Byddai hyn yn helpu chi gael syniad o’r gwelliannau ynni fedrwch chi gymryd yn eich cartref. Bydd natur y cyngor yn fwy eang a llai penodol, ond bydd yr asesydd yn gallu eich rhoi ar ben ffordd o ran y camau gorau i gymryd. Nid yw pob mesur effeithlonrwydd ynni yn addas i bob tŷ.
Er mwyn eich atgoffa o’r sgwrs gyda’n hasesydd ôl-osod arbenigol, byddwch yn derbyn crynodeb pwynt bwled yn dangos y cyfleoedd a’r peryglon ynghlwm â’ch cartref.
