
Cyd-destun byw

Cyd-destun byw
Mae sut mae pobl yn byw yn eu cartrefi yn amrywio’n fawr. Mae rhai tai’n llawn o fywyd prysur teulu, tra bod eraill bron yn wag. Mae rhai’n hoffi cael y gwres ymlaen drwy’r dydd yn y gaeaf, eraill yn hapus i wisgo siwmperi y tu fewn. Mae blaenoriaethau a chymhelliant ar gyfer ôl-osod yn amrywio hefyd. Mae rhai eisiau sgôr EPC da, eraill eisiau cartref iach, eraill eisiau lleihau biliau, ond mae’r rhan fwyaf ohonom eisiau cymysgedd o’r rhain i greu cartref cynnaliadwy. Mae dull Cartrefi Clyd o weithio’n galluogi hyn ac hyn ystyried pob ffactor pwysig fel safon aer, gwres, cysur, costau byw a charbon.
Mae proses asesu Cartrefi Clyd naill ai’n gallu defnyddio eich ffigyrau defnydd fel sylfaen ar gyfer yr adroddiad neu ddefnyddio ‘data safonol’.
