
Ffenestri

Ffenestri
Mae ffenestri’n ddrud a phrin yw’r achosion lle mae’n gwneud synnwyr economaidd i’w huwchraddio gan fod yr arbedion sy’n gysylltiedig â nhw yn fychan o gymharu â’r gost cyfalaf. Fodd bynnag, gallant wneud gwahaniaeth mawr o ran cysur ac mae hynny’n werthfawr.
Ffenestri yw ‘llygaid yr adeilad’ ac maen nhw’n gymorth gwirioneddol wrth lunio cymeriad cartref, felly mae’n bwysig i greu’r cynllun a’r dewisiadau deunyddiau cywir ar gyfer pob lefel o’r adeilad. Mae adeiladau hŷn, er enghraifft, yn edrych yn well gyda ffenestri pren, ac mae arddull sy’n adlewyrchu eu treftadaeth yn gwarchod eu hunaniaeth yn ogystal â pharchu uniondeb y stryd yn ehangach. Mae pren, metel neu blastig oll yn ddefnyddiau sydd ar gael i’w prynu’n hawdd, ond bydd gwahanol steiliau a ffurfiau, yn dibynnu ar eich cartref, yn gweddu’n well.
Cymerwch amser i feddwl am eich dewisiadau a’r goblygiadau ehangach ar eich ardal.
Mae ffenestri hefyd yn cael eu defnyddio fel elfen hanfodol o systemau awyru ein cartrefi, felly meddyliwch am eich strategaeth awyru wrth newid ffenestri. Mae’n arfer gorau i nodi fentiau diferu yn eich ffenestri am fod rhain yn darparu awyru cefndirol ar gyfer y cartref cyfan*. Er mwyn gwneud rhain yn fwy effeithiol mae’n werth edrych ar reoli llaethder perthynol ar y fentiau, yn enwedig rheiny fydd yn gweithio ar y cyd â system perthynol echdynnu llaethder yn barhaus. Mae hyn yn dechrau creu rhywbeth a elwir yn System Mynnu Awyru Rheoledig.
*Dylai fentiau diferu gael ei nodi ar gyfer ‘stafelloedd y gellir byw ynddynt’ (stafell wely, lolfa ayyb) ac nid ar gyfer ‘stafelloedd gwlyb’ (stafell molchi, ceginau ayyb gan y dylai’r rhain fod â echdynnwyr MEV parhaus wedi’u gosod).
Mewn termau hollol ymarferol ac wrth feddwl am egni, gall hen ffenestri sengl ddrafftiog dynnu’r gwres oddi wrth y stafell ac oddi wrthoch chi. Er mwyn mynd i’r afael â hyn y dewisiadau yw:
- Gwydro eilaidd neu gyfnewid am unedau gwydro dwbl
- Cyfnewid am ffenestri gwydro dwbl newydd
- Cyfnewid am ffenestri gwydro triphlyg
Gwydro eilaidd
Mae’n bosib y bydd angen cadw / adfer hen ffenestri codi / gwydro sengl yn sgil ystyriaethau cynllunio (adeilad cofrestredig, statws ardal gadwraeth ayyb). Os mai dyma’r achos ceir cyngor gwych fan hyn: https://historicengland.org.uk/images-books/publications/traditional-windows-care-repair-upgrading/heag039-traditional-windows-revfeb17/
Cyfnewid am ffenestri gwydro dwbl newydd
Yn gyffredinol, mae unedau gwydro dwbl yn ddigonol ar gyfer hinsawdd Cymru ac maen nhw ar gael mewn ystod o ffurfiau gan gynnwys, agor tuag allan, agor tua mewn (haws i lanhau) ac mae opisynau diddiwedd ar gael, ond yn nhermau egni dylech edrych ar leiafswm o ffenestri gradd A. Bydd gan y rhain gwydro a fframiau sy’n insiwleiddio’n dda. Mae gradd A yn gyfatebol i werth oddeutu 1.6U. Ond yn ddelfrydol dylid nodi ffenest gwerth 1.2 neu 1.4 U.
Os ydych chi mewn ardal swnllyd yna gallwch nodi trefniant 6:4 (paen 6mm wedi’i gyfuno â phaen 4mm – mae’r mwyafrif yn 4:4) am fod hwn yn cael ei ystyried fel ffenest acwstig a bydd yn debyg o ran gallu i leihau sŵn i uned gwydro triphlyg.
Cyfnewid am ffenestri gwydro triphlyg
Unedau gwydro triphlyg yw’r cam nesaf o ran effeithlonrwydd egni a lleihau sŵn, fodd bynnag mae llawer o hyn yn cael ei golli os ydyn nhw’n dal i gael eu defnyddio fel rhan o system awyru. Mae ffenestri gwydro triphlyg perfformiad uchel ar eu gorau pan maen nhw’n cael eu cyfuno â systemau awyru adfer gwres mwy cymhleth. Mae eu heffeithlonrwydd ychwanegol, pwysau a chost braidd byth yn gwneud synnwyr ymarferol heblaw eich bod yn bwriadu creu lefel o insiwleiddio a rheoli egni sy’n gyfwerth â ‘Passiv Haus’.
