
Goleuo

Goleuo
LEDau
Mae bylbiau LED bellach wedi disodli Lampiau Fflwroleuol Cywasgedig (LFfC) o ran dewis egni isel. Does gan fylbiau LED ddim amser twymo, dim fflachio ac mae’r rhai mwyaf effeithlon yn defnyddio hanner trydan bylbiau LFfC. Maen nhw hefyd yn medru para dros 10,000 o oriau ac mae prisiau wedi gostwng yn sylweddol.
Bydd bwlb LED yn darparu’r hyn sy’n gyfwerth â 8 i 10 gwaith y watedd sydd wedi ei nodi o’i gymharu â hen fwlb gwynias neu halogen, felly byddai angen LED 4w neu 5w ar halogen 40w er mwyn cynnig lefel golau tebyg. Mae hwn mor uchel fel bod gwerth newid bylbiau i fylbiau LED hyd yn oed cyn iddynt fethu. Mae’r gwahanred rhwng LED a Lampiau Fflwroleuol Cywasgedig (LFfC) yn llai (tua dwbl). Argymhellir felly y dylid cyfnewid LFfCau gyda LEDau dim ond pan maent wedi methu.
Gellir dod o hyd i LEDau cyffredin yn y rhan fwyaf o siopao lleol. Mae modd cyfnewid bron pob math o fwlb domestig am fwlb LED, gan gynnwys tiwbiau fflwroleuol.
Mae gosodiadau golau gyda synwyryddion symudiad awtomatig yn ddefnyddiol mewn cynteddau a thu allan.
