
Camau cyflym

Camau cyflym
Gwresogi
- Trowch eich thermostat i lawr i dymheredd cysurus
- Defnyddiwch eich falfiau gwresogydd thermostatig (TRVs) i wneud pob ystafell yn fwy cyfforddus, neu er mwyn ynysu ystafelloedd nad ydynt mewn defnydd.
- Trowch dymereddau llif i lawr
Caiff tymereddau eich boeler eu rheoli ar y panel rheoli ar y blaen fel arfer. Mae rhai wedi ei gosod i’r tymheredd uchaf, ond mae yna ‘fan braf’ (wedi ei farcio fel rheol gyda dot) lle ddylai’r deial fod. Mae hwn tua 60 gradd canradd, neu rhwng y 3ydd a’r 4ydd dot ar ddeial rheoli tymheredd y gwresogydd.
Cawodydd
- Defnyddiwch gawodydd sydd wedi eu cysylltu at eich cyflenwad Dŵr Poeth Domestig (DPD) yn hytrach na chawodydd trydan
Os oes gennych gawod trydan, dyma’r ddyfais sydd, mwy na thebyg, yn defnyddio’r cyfradd fwyaf o bŵer, maen nhw fel arfer o gwmpas 10kW, felly mae cawod 20 munud yn costio oddeutu £1 (ar bris trydan o 35c/kWa). Mewn cymhariaeth, os oedd gennych gawod oedd yn cael ei yrru gan ddŵr poeth oedd wedi ei wresogi gyda boeler olew neu nwy, byddai cawod 20 munud yn costio oddeutu 30c.
- Ymdrechwch i gael cawodydd byrrach
Gyda chostau cawodydd trydan mor uchel mae’n werth newid arferion i gael cawod byrrach, neu o leiaf i ddefnyddio’r gawod ar gyfer gwlychu ac ymolchi yn unig.
- Gosodwch gawod sy’n arbed dŵr.
Os ydych ar fesurydd dŵr neu’n meddu ar gawod DPD yna mae’n bosib y bydd gosod cawod ‘pwls’ yn lleihau defnydd dŵr a’r costau egni sy’n gysylltiedig â’i wresogi. Mae cawodydd pwls yn teimlo’n gynhesach na chawodydd arbed-dŵr ‘awyru’ eraill. Noder y gallwch wneud yr un peth gyda chawodydd trydan ond bod angen defnyddio pennau cawod arbenigol.
Dŵr Poeth Domestig (DPD)
- Os oes gennych danc sicrhewch fod y tanc wedi ei insiwleiddio’n dda (os oes gennych foeler cyfunol (combi), ni fydd gennych un).
Noder os oes gennych system PV gallwch arallgyfeirio’r egni trydanol oddi wrth eich paneli at y twymwr tanddwr ar eich tanc i’w ddefnyddio fel storfa egni. Enw’r ddyfais sydd ei angen yw arallgyfeirydd PV (PV Diverter). Sicrhewch eich bod yn gofyn am gyngor cyn prynu.
- Lagio piben dŵr poeth
Defnyddiwch lagiwr i arafu colli gwres o’ch boeler / tanc DPD at eich tapiau. Mae hyn yn rhoi dŵr cynhesach i chi ar gyfer ymolchi.
- Troi tymhereddau llif i lawr
Caiff tymereddau eich boeler eu pennu ar y panel rheoli ar y blaen fel arfer. Mae rhai wedi ei gosod i’r tymheredd uchaf, ond mae yna ‘fan braf’ (wedi ei farcio fel rheol gyda dot) lle ddylai’r deial fod. Mae hwn tua’r marc 80%, neu oddeutu 60 gradd canradd.
Goleuo
- Diffoddwch oleuadau nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Cyfnewidiwch unrhyw fylbiau halogen neu wynias ar gyfer bylbiau LED (hyd yn oed os nad oes angen eu cyfnewid)
- Cyfnewidiwch fylbiau fflwroleuol (CFL arbed egni) am fylbiau LED pan fo angen eu newid
Golchi dillad
- Sychwch eich golch tu allan ar y lein os yn bosib
- Os ydych chi’n sychu tu mewn yn ystod misoedd oerach, sicrhewch fod yr ystafell wedi ei awyru’n dda er mwyn lleihau risg anwedd
Tecyll
- Llenwch y tecell gyda’r swm o ddŵr sydd angen arnoch yn hytrach na’i lenwi i’r brig
- Os ydych yn berwi gormod, beth am baratoi fflasg o de/coffi at nes ymlaen?
Coginio
- Cofiwch osod caead ar botiau a sosbenni
- Defnyddiwch eich ffan echdynnu er mwyn gwaredu llaethder a lleihau risgiau anwedd
- Cynlluniwch ddefnyddio’r ffwrn er mwyn pobi sawl peth ar unwaith neu o leiaf yn olynol
Llenni a bleinds
- Caëwch y llenni a’r bleinds gyda’r nos yn ystod y tymor gwresogi
Peiriannau a theclynnau
- Diffoddwch unrhyw declynnau nad yw’n hanfodol wrth y soced (peidiwch diffodd llwybryddion (routers), wi-fi a rhewgelloedd)
Gwarchod rhag drafft
- Mae gwarchod rhag drafft o gwmpas drysau a ffenestri nid yn unig yn arbed arian ond hefyd yn gwneud eich cartref yn fwy cyfforddus
- Peidiwch anghofio’r hatsh i’r atig. Mae’n hynod bwysig er mwyn atal awyr poeth llaeth rhag cyrraedd gofod yr atig, felly sicrhewch eich bod yn gwarchod rhag drafft o amgylch twll y nenfwd, a beth am insiwleiddio’r twll mynediad ar yr un pryd?
- Cofiwch fod yn rhaid cadw awyru, er nad ydych eisiau drafft, felly PEIDIWCH tapio dros fentiau diferu mewn ffenestri, neu selio echdynnwyr yn y stafelloedd ymolchi, ceginau na thai bach, mae’r rhain yn bwysig er mwyn cadw’r awyr yn iach yn eich cartref drwy leihau’r risg o greu damp neu lwydi.
