
Gwresogi oddi ar y grid

Gwresogi oddi ar y grid
Mewn achosion lle mae prif gyflenwad nwy y grid yn rhy ddrud i’w osod mae nifer o dai gwledig yng Nghymru yn dibynnu ar ffynonellau tanwydd annibynol fel olew, LPG, glo neu drydan. Mae’r gost ar gyfer y tanwyddau hyn lawer yn uwch yn gyffredinol na’r nwy o’r prif gyflenwad. Mae hyn yn golygu fod newid i ffynhonnell wresogi mwy effeithlon / newydd yn aml yn fwy ffafriol yn ariannol, fodd bynnag, ceir rhai cyfyngiadau.
Boeleri Olew
Mae boeleri olew yn debyg i nwy o ran effeithlonrwydd ac os ydych yn eu cyfnewid yna’r unig ddewisiadau carbon isel arall yw:
- Pympiau gwres
- Bio-màs
- Olew Llysiau wedi’i drin (HVO)
Pympiau gwres
Dysgwch fwy am bympiau gwres yma.
Boeleri Bio-màs
Mae boeleri yn gallu cael eu cyfnewid yn uniongyrchol ar gyfer systemau olew / LPG i ffwrdd o’r grid am eu bod yn gweithredu ar dymereddau tebyg. Wrth gwrs, mae’n rhaid ystyried storio’r tanwydd a sut mae’n cyrraedd y boeler ei hun o’r stôr wrth ddefnyddio bio-màs. Gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd yn dibynnu ar y math o danwydd (peledi yw’r mwyaf amlbwrpas ond hefyd y drytaf) a lleoliad y boeler a’r storfa. Mae yna ormod i’w drafod fan hyn, felly gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am bren a ffurfiau eraill o wresogi bio-màs fan hyn: https://energysavingtrust.org.uk/advice/biomass/
Mae boeleri bio-màs hefyd yn opsiwn a ariannir yng Nghynllun Uwchraddio Boeleri Llywodraeth y DU, gweler https://www.gov.uk/apply-boiler-upgrade-scheme
Olew Llysiau wedi’i drin (HVO)
‘Bio-diesel’ yw HVO ac felly mae’n gyfwerth union â cherosîn (olew). Mae hwn yn deillio o sylwedd organig yn hytrach na thanwyddau ffosil ac felly’n lleihau eich ôl-troed carbon yn syth bin gan oddeutu 90%. Y peth gorau am y dewis amgen yw nad yw’n gofyn am unrhyw newid yn isadeiledd y system wresogi. Mae’r rhan fwyaf o foeleri modern yn cydweddu â HVO, ond mae’n well gwirio gyda’r gwneuthurwr er mwyn sicrhau nad yw model eich boeler yn galw am unrhyw newidiadau.
Mae HVO yn ddrytach na cherosîn, a dim ond llond llaw o gyflenwyr sydd ar gael, ond mae’n werth gwirio, yn enwedig os ydych yn rhan o gonsortiwm prynu yn lleol gan y byddai hyn yn dod â’r prisiau i lawr.
Bio-Nwy / Bio LPG
Nwy sydd wedi ei greu o sylwedd llysieuol yw bionwy. Gellir ei brynu mewn ffurf pur a gall hwn leihau eich ôl-troed carbon oddeutu 90%, fodd bynnag mae nifer o gwmnïau yn tueddu i’w gynnig fel cymysgedd o LPG a Bio-LPG / Nwy.
