Beth yw ôl-osod?

Beth yw ôl-osod?

Beth yw ôl-osod?

Ôl-osod

Yn syml, mae ôl-osod yn meddwl rhoi mesurau mewn lle i wneud eich cartref mor effeithlon ag sy’n bosib.

Oherwydd natur amrywiol ein cartrefi, mae’r mesurau’n newid o dŷ i dŷ.

Mae ffactorau megis y deunyddiau mae’r tŷ wedi adeiladu ohono, pryd gafodd ei adeiladu, ei leoliad, sut mae wedi newid dros amser, ynghyd â chynnal a chadw a sut hoffech chi fyw ynddo’n rhai o’r pethau sydd angen cael eu hystyried. 

I ôl-osod ein tai’n gywir, mae angen dealltwriaeth o’r adeilad, pwy sy’n byw ynddo, ei gyflwr a mwy.

Y Dull Cartref Cyfan

Mae’r Dull Cartref Cyfan yn ddull o feddwl am ôl-osod sy’n cymryd peryglon a ffactorau ehangach i mewn i ystyriaeth. Mae am gydbwyso gofynion sydd o bosib yn gwrthdaro gyda chyd-destun ehangach y tŷ.

Mae’r dull hwn yn sicrhau nad yw’r camgymeriadau sy’n gallu digwydd wrth weithio mesur-wrth-fesur tra’n ôl-osod yn digwydd.

Mae’r fideo isod yn dangos y cyswllt rhwng ynysu ar gyfer wal galed a’r dull cartref cyfan:

Am ragor o wybodaeth am y safon ddisgwyliedig ym maes ôl-osod, a rhesymau pam fedrwch chi ymddiried yn ein gwasanaeth, ewch yma. (Trusted Service link)

Mae gennyf i argymhellion Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Sut mae hwn yn wahanol?

Mae argymhellion o Dystysgrifau Perfformiad Ynni yn hynod o fras ac yn gallu arwain i broblemau difrifol i chi a’ch cartref. Mae ein hasesydd ôl-osod yn teilwra eu hargymhellion ar gyfer eich cartref chi. Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n gwneud unrhyw niwed i’ch cartref, cysylltwch ag asesydd ôl-osod arbenigol cyn ôl-osod eich tŷ.

Am ragor o wybodaeth am broblemau Tystysgrif Perfformiad Ynni, ewch yma.

Rhannwch...