Waliau

Waliau

Waliau

Gellir insiwleiddio waliau mewn lleoliadau gwahanol yn ddibynnol ar eu gwneuthuriad.

Insiwleiddio Wal Geudod

Mae rhan helaeth o Gymru o fewn ardal Glaw Wedi’i Yrru gan Wynt. Gweler isod:

Ar gyfer ardaloedd ym mharth amlygiad 4 nid yw ôl-osod Insiwleiddio Wal Geudod yn cael ei argymell o gwbl. Gellir ei osod yn ardal amlygiad 3 ond dim ond os caiff ei wneud yn ofalus. Mae nifer o’r tai gafodd eu hinsiwleiddio gan ddefnyddio Insiwleiddio Wal Geudod bellach yn gorfod tynnu’r insiwleiddio oddi yno yn sgil problemau llaethder. Yn hytrach, mae’n well insiwleiddio eich waliau nail ai yn fewnol (Insiwleiddio Wal Mewnol) neu’n allanol (Insiwleiddio Wal Allanol). Mae’r rhain yn fesurau sy’n llawn risg ac felly mae angen eu nodi a’u manylu yn broffesiynol.

Cafodd rheoliadau adeiladu eu diweddaru ym 1976 er mwyn dechrau gosod isafswm lefel insiwleiddio mewn cartrefi domestig, felly o tua’r dyddiad hwn, dechreuodd waliau gynnwys Insiwleiddio Waliau Ceudod. Os cafodd eich cartref ei adeiladu cyn 1976 mae’n anhebygol fod insiwleiddio wedi ei osod ar adeg yr adeiladu. Mae nifer o dai ers hynny wedi ychwanegu insiwleiddio’n hwyrach. Dyma dasg weddol hawdd i’w chwblhau. (Mae safonau adeiladu wedi cael eu hadolygu sawl gwaith ers hyn er mwyn cynyddu’n raddol yr anghenrhaid am effeithlonrwydd egni). Dylai’r sawl sy’n gosod yr insiwleiddio ddrilio tyllau ac archwilio’r ceudod ym mhob lefel gyda sbienddrych turio ‘borescope’ er mwyn gwirio fod y ceudod yn addas i’w lenwi gan fod rhai adegau lle nad yw’n synhwyrol (e.e. os oes gormod o fortar yn llenwi’r ceudod).

Os ydych yn gytûn ynglŷn â gosod insiwleiddio, yna dylai’r gosodwr ddrilio tyllau yng nghymalau’r mortar bob 2m dros ardal y wal a chwistrellu insiwleiddio i mewn i’r ceudod. Yn aml, dydy ardaloedd ‘sensitif’ – dros gapanau, o gwmpas pibau, ar hyd platiau wal (ar dop y wal) – ddim wedi eu hinsiwleiddio a gall hyn arwain at fannau oer. Oherwydd hyn, nid yw Insiwleiddio Wal Geudod yn ddibynadwy iawn, a gall achosi canlyniadau anrhagweladwy. 

Mae hefyd yn bwysig i wirio fod eich clymau wal geudod mewn cyflwr da. Gyda sgaffaldiau wedi’u gosod er mwyn gwneud Insiwleiddio Wal Geudod mae’n syniad i osod clymau wal newydd ar yr un pryd os oes angen.

Insiwleiddio Wal Solet

Mae waliau solet yn gyffredin iawn yng Nghymru. Dylai adeiladau Fictorianaidd, Edwardaidd a cheudod cynnar (hyd at yr Ail Ryfel Byd) oll gael eu trin fel waliau solet. Maen nhw fel arfer naill ai’n garreg (rwbel ar hap gyda rendro, haen o feini, cerrig wedi’u torri) neu strwythurau bric, er fod rhai fframiau pren wedi’u llenwi â phaneli bangorwaith a dwb yng nghanolbarth Cymru.

Mae’r waliau yma’n ‘anadlu’ ac felly’n hollol wahanol i adeiladau cyfoes ddaeth wedi’r rhyfel am fod y gallu ganddynt i adael i laethder basio trwy eu strwythurau. Mae hon yn nodwedd bwysig o’r adeiladau hyn ac mae angen ei ystyried wrth ddewis deunyddiau insiwleiddio. Mae cyngor ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac ar wefan y Sustainable Traditional Buildings Alliance.

Insiwleiddio Wal Allanol

Gellir gosod insiwleiddio wal allanol mewn adeiladau cyfoes a thraddodiadol (Insiwleiddio Wal Solet), fodd bynnag mae’r dewis o ddeunyddiau yn hanfodol. Peidiwch defnyddio deunyddiau cyfoes nad ydynt yn anadlu ar adeiladau traddodiadol, heblaw eich bod wedi ymgynghori gydag arbenigwr ôl-osod (chwiliwch am Gydlynydd Ôl-osod ar https://trustmark.org.uk ). Mae Insiwleiddio Wal Allanol ar gyfer tai cyfoes yn llai o risg ond mae’n dal yn gofyn am gyngor arbenigol i sicrhau ei lwyddiant.

Manteision Insiwleiddio Wal Allanol:

  • Gellir ei osod heb amharu braidd dim ar y cartref a’r preswylwyr
  • Does dim angen mynediad mewnol
  • Nid yw’n lleihau ardal (gofod byw) y cartref
  • Gwella diogelwch rhag tywydd gwael a sŵn
  • Gwneud yr adeilad yn fwy aerdynn, gan leihau colli gwres (Mae angen sicrhau fod awyru naturiol a mecanyddol digonol yn yr adeilad)
  • Lleihau risg cyddwysiad
  • Potensial i wella golwg yr adeilad – gyda’r potensial o gynyddu gwerth yr adeilad

Anfanteision:

  • Potensial o fod yn niweidiol i olwg yr adeilad.
  • Mwy na thebyg yn amhosib mewn ardaloedd cadwraeth / ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ayyb.
  • Efallai’n gofyn am waith ychwanegol er mwyn gosod tô (neu elfennau eraill) er mwyn hwyluso gosod yn gywir

Ardaloedd risg:

  • Pontydd thermol o gwmpas drysau a ffenestri, ffenestri bae, gwahanfuroedd
  • Nodi deunyddiau anghywir

I gael mwy o wybodaeth gweler: https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/external-wall-insulation-project-guide.pdf

Insiwleiddio Wal Mewnol

Yn debyg i Insiwleiddio Wal Allanol, gellir cymhwyso Insiwleiddio Wal Mewnol i adeiladau cyfoes a thraddodiadol (Insiwleiddio Wal Solet) fodd bynnag mae dewis y deunyddiau yn hanfodol. Peidiwch defnyddio deunyddiau cyfoes nad ydynt yn gallu anadlu ar adeiladau traddodiadol heblaw eich bod wedi ymgynghori gydag arbenigwr mewn ôl-osod (chwiliwch am Gydlynydd Ôl-osod ar https://trustmark.org.uk ). Mae Insiwleiddio Wal Mewnol ar gyfer tai cyfoes yn llai o risg ond mae gofyn derbyn cyngor arbenigol i sicrhau ei lwyddiant.

Manteision Insiwleiddio Wal Mewnol yw:  

  • Yn gyffredinol, mae’n rhatach na gosod insiwleiddio wal allanol.

Anfanteision:

  • Bydd yn lleihau gofod llawr unrhyw ystafell lle gaiff ei osod.
  • Gall darfu ar weithgarwch am fod y gwaith yn digwydd tu fewn.
  • Bydd angen tynnu ac ail-osod y sgertin, fframiau drws, rheiddiaduron a gosodiadau allanol.
  • Efallai bydd angen symud gwifrau trydanol.
  • Mae’n gallu ei wneud yn anodd i osod eitemau ar waliau mewnol heb greu twll yn y memrwn – er fod gosodiadau arbenigol ar gael.
  • Mae’n peri i orffeniadau allanol fod yn fwy agored i niwed oddi wrth rew / traul.

Ardaloedd Risg:

  • Mae angen i fylchau rhyngol yn y llawr, ciliau, talcennwyr a siliau o amgylch drysau a ffenestri gael eu hinsiwleiddio er mwyn atal niwed i fannau oer.
  • Bydd angen i osodiadau megis grisiau gael eu tynnu dros dro os ydynt ar wal allanol.
  • Mae angen i unrhyw broblemau gyda chracio, treiddio neu damprwydd sy’n codi neu uniadau mortar gwael gael eu trwsio gyntaf.
  • Ni ddylid insiwleiddio un ochr o dai pâr.
  • Nodi deunyddiau anghywir.

I gael mwy o wybodaeth gweler: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1019707/iwi-guidance.pdf

Rhannwch...