
Gwasanaeth Cartrefi Clyd

Gwasanaeth Cartrefi Clyd
Mae Cartrefi Clyd yn bartneriaeth rhwng CARE, DEG, Ynni Llŷn, Lightfoot, Awel Aman Tawe a Rounded Devlopments Enterprises. Mae pob un ohonynt wedi darparu cyngor arbenigol ar arbed ynni neu ôl-osod dros nifer o flynyddoedd.
Mae Cartrefi Clyd yn wasanaeth wedi’i gyllido’n rhannol gan gynllun Energy Industry Voluntary Redress sy’n canolbwyntio ar helpu perchnogion i ôl osod eu tai y tro cyntaf gan leihau’r peryglon. Dim gwastraffu adnoddau na gorfod ail-wneud gwaith oherwydd effeithiau annisgwyl. Ewch yma am esboniad byr o ôl-osod.
Mae Cartrefi Clyd yn defnyddio Aseswyr a Chydlynwyr hyfforddedig ac yn dilyn “Dull Cartref Cyfan”, gyda llwybr wedi’i ddylunio i reoli risgiau ôl-osod, sydd wedi’i osod mas gan ganllawiau a manylebau’r llywodraeth, o’r enw PAS2035. Ewch yma i ddarganfod mwy am y “Dull Cartref Cyfan” a PAS2035
Mae pob partner yn fudiad ynni cymunedol neu’n fenter gymdeithasol wedi’u lleoli yng Nghymru, ac felly maent yn deall daearyddiaeth, hinsawdd ac adeiladau lleol.
Bydd natur y gwasanaeth yn y pedwar ardal yn amrywio yn ôl y galw ac argaeledd yr aseswyr. Rydym yn disgwyl i’r gwasanaeth llawn fod ar gael am y pris gostyngedig rhwng Rhagfyr 2023 ac Awst 2025.



