Awyru

Awyru

Awyru

Mae awyru’n gywir yn rhan pwysig o unrhyw brosiect ôl-osod. Mae rheoli’r awyr yn helpu creu amgylchedd iach y tu fewn i’r tŷ gan wneud gwahaniaeth i effeithlonrwydd ynni hefyd. Rheoliadau cynllunio sy’n penderfynnu ar y lefelau o awyru sydd eu hangen mewn adeiladau. Mae modd gweld mwy am hyn fan hyn.

Mae gwahanol stratagaethau awyru ar gyfer adeiladau, gyda’r dewis o ba un yn cael effaith ar benderfyniadau eraill fel ffenestri a sut rydych chi’n gwresogi eich tŷ. Dyma brif opsiynau awyru:

  • Awyru Ysbeidiol (IEV)
  • Awyru Mecanyddol
  • Awyru yn ôl y galw (DCV)
  • Awyru arbed gwres mecanyddol (MVHR)
  • Awyru mewnbwn positif (PIV)
  • Awyru goddefol (PSV)

IEV yw’r math mwyaf cyffreding ac mae’n ddibynnol ar alldynwyr wedi’u troi ymlaen mewn stafelloedd gwlyb (ceginau, ystafellodd molchi ac yn y blaen). Mae rhain yn dueddol o gael eu rheoli gan ddiffoddwyr golau neu cordiau tynnu.

Mae MEV yn rhedeg yn gyson ac yn cael eu rheoli gan synwyryddion lleithder (RH). Mae systemau nad ydynt wedi’u canoli’n rhedeg alldynwyr annibynnol ym mhob stafell wlyb, tra bod system wedi’i chanoli gydag un ffa, a chyfres o dyllau awyr sy’n cysylltu’r stafelloedd gwlyb gyda’i gilydd.

Mae DCV yn llai cyffredin, ond efallai’r mwyaf effeithlon o ran cost am ei fod yn tafoli llif yr awyr iach ac awyr hen, llaith. Gwna hyn drwy fonitro ffactorau allweddol fel lleithder, gwres a lefelau CO2 a newid y system awyru yn ôl y galw.

Mae MVHR yn cael ei ddefnyddio mewn tai modern o effeithlonrwydd uchel ac yn gweithio mewn dull tebyg i DCV, ond mae’n defnyddio uned ganolog i arbed gwres o’r awyr sy’n cael ei alldynnu a’i roi yn yr awyr iach sy’n dod i mewn. Mae’r systemau hyn yn ddrud, ac angen twnneli awyr a chynnal a chadw, ond yn arbed ynni drwy’r broses o gyfnewid gwres.

PIV yw pan fo awyr iach (fel arfer o’r llofft) yn cael ei bwmpio i mewn i’r tŷ. Mae hyn yn creu newid yng ngwasgedd yr aer sy’n gwthio awyr hen drwy dyllau awyr. Nid yw PIV yn fanwl iawn, ond wedi cael ei ddefnyddio’n eang mewn tai sy’n dioddef o ddamprwydd.

Mae PSV neu Awyru Naturiol yn defnyddio’r gwahaniaethau naturiol mewn gwasgedd rhwng awyr y tu allan a’r tu fewn mewn i awyru’r tŷ. Tra nad yw hyn yn gofyn am ddefnydd ynni, nid yw’n ddull o awyru sydd wedi cael ei reoli’n dda iawn.

Mae cael y strategaeth awyru cywir gyfer pob adeilad yn hynod o bwysig. Mae cael yr egwyddorion yn eu lle a system sy’n gweithio yn faen sylfaen ar gyfer ôl-osod.

Rhannwch...