Math o dŷ

Math o dŷ

Math o dŷ

Mae dulliau adeiladu tai wedi newid dros amser. Mae hyn wedi cael ei yrru gan ffactorau ehangach fel datblygiadau technolegol mewn deunyddiau, lefelau arbenigedd, costau teithio, ymarferion cynhyrchu, costau ynni, offer, ffactorau cymdeithasol, ffasiwn a.y.y.b

Mae 1919 yn cael ei weld fel dyddiad allweddol yn nhermau’r diwydiant adeiladau ar ôl i’r rhan fwyaf o adeiladau newid o fod yn waliau solet wedi’u creu o garreg a bric lleol i rhai â gagendor. Fodd bynnag dylai enghreifftiau cynnar o dai gagendor gael eu trîn fel waliau solet am nad oeddent wedi’i safoni nes ar ôl 1945.

Wedi 1945, tyfodd defnydd o adeiladwaith systemig. Roedd rhain gan fwyaf yn adeiladau ffram concrit neu fetal ac mae’r rhain yn wahanol i adeiladau wal agendor arferol.

Gwelwyd cynydd mewn waliau gagendor yn ystod yr 1960au a’r 70au, ond hefyd mathau arall o adeiladwaith fel wal groes.

Ers yr 1990au mae’r tueddiad wedi bod tuag at adeiladau ffrâm bren gyda chladin bric.

Mae rheoliadau adeiladu wedi newid dros amser hefyd, ac felly mae lefelau amrywiol o berfformiad i weld yn yr adeiladau hyn.

Nid yw adeiladau’n aros yn stond. Mae’n ddigon posib bod gan dŷ o 1850 ymestyniad to fflat o’r 1970au a stafell haul o’r 2000au. Mae’n bosib bod y newidiadau hyn wedi cael ei wneud yn dda, neu beidio. Mae sut y mae rhain yn cysylltu ac yn effeithio ar ei gilydd yn allweddol i berfformiad presennol y tŷ.

Mae tai hŷn wedi newid mewn ffyrdd gwahanol hefyd. Y cyfleusterau golchi wedi symud o’r tu allan y tu fewn er enghraifft, neu wres canolog wedi cymryd lle llefydd tân ym mhob stafell, ffenestri dwbl yn lle haen sengl, insiwleiddio yn y lloft, ac yn y blaen.

Ynghyd â deunyddiau adeiladu, technegau a hanes, mae mathau o dai’n amrywio o ran ffurf. Mae tai teras yn wahanol i dai sengl. Mae tai yn wahanol i floc o fflatiau. Mae ffurf yn creu cyfyngiadau i berchennog y tŷ, a’r risgiau hyn angen cael eu rheoli yn ôl y gofyn. Er enghraifft, mewn tŷ teras mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn effeithio ar eich cymydog. Mae ôl-osod yn newid sut mae gwres a lleithder yn gweithio o fewn strwythur adeilad. Mae hyn yn ei dro’n cael effaith ar adeiladau sy’n gysylltiedig, felly mae angen gofal i sicrhau nad yw eich gwaith yn cael effaith ddrwg ar eich cymdogion.

Mae adnabod, deall a chymryd gwahanol fathau o dai i mewn i ystyriaeth yn rhan elfennol o reoli risg o fewn retrofit.

Rhannwch...