
Lloriau

Lloriau
Yn ddelfrydol dylai pob tŷ fod â lloriau wedi’u hinsiwleiddio. Mae yna ddau brif math o loriau sy’n bodoli: solet neu grog. Maent ill dau yn meddu ar eu cyflëon a’u problemau eu hunain.
Insiwleiddio llawr solet
Mae codi llawr sydd heb ei insiwleiddio er mwyn gosod un sydd wedi ei insiwleiddio yn dasg weddol fawr, ac mae’n gwneud synnwyr i’w gyfuno â gwaith mewnol mawr arall. Bydd gosod insiwleiddio ar ben llawr sydd heb ei insiwleiddio yn un ateb, ond gall fod nifer o broblemau:
- Mae codi lefelau’r llawr gyda’r haen insiwleiddio yn ymyrryd ag uchder drysau, ffenestri ac arwynebeddau ceginau ynghyd â grisiau.
- Mae’n rhaid i’r haen insiwleiddio fod yn gydnaws o ran llaethder â’r strwythur oddi tano
- Mae’n rhaid i’r haen allu cynnal pwysau eitemau’r cartref a’r bobl oddi mewn yn ddiogel.
Os ydych chi’n newid llawr sy’n anadlu yna rydym yn argymell eich bod yn defnyddio llawr ‘limecrete’ sy’n anadlu fel cyfnewidiad uniongyrchol. Gweler: https://historicengland.org.uk/images-books/publications/eehb-insulating-solid-ground-floors/
Insiwleiddio pren crog
Mae insiwleiddio lloriau pren gymaint yn fwy syml, ond hefyd yn her. Mae angen cymryd gofal i sicrhau fod y llawr wedi’i awyru’n ddigonol a hefyd fod y deunyddiau cywir wedi cael eu defnyddio.
Gellir dod o hyd i gyngor yn:
https://historicengland.org.uk/images-books/publications/eehb-insulation-suspended-timber-floors/
