
Proses ymarfer gorau

Proses ymarfer gorau
Mae’r methiannau dramatig wrth geisio effeithlonni tai dros y ddwy ddegawd ddiwethaf wedi arwain at angen am safon newydd mewn ôl-osod. Y safon sy’n cael ei glustnodi gan y Llywodraeth yw PAS 2035.
Mae PAS 2035 yn system yn seiliedig ar risg, sydd angen gwybodaeth a sgiliau arbenigol i fod yn rhan o’r holl broses o ôl-osod. Mae hwn yn cynnwys asesu, rheoli prosiect, dylunio, gosod a gwerthuso.
Yn allweddol i’r system hwn mae’r Cydlynydd Ôl-osod, sy’n cynrychioli’r cleient ac yn goruchwylio’r holl broses. Er mwyn gallu ymarfer fel Cydlynydd Ôl-osod annibynnol, mae unigolion angen cymhwyster lefel 5 mewn Rheoli Risg a Retrofit ynghyd ag Yswiriant Indemniad Proffesiynol.
Mae’r gwasanaeth Cartrefi Clyd, sydd wedi’i ariannu gan gynllun Energy Industry Voluntary Redress, yn seiliedig ar nodweddion PAS2035, ac rydym yn cyflogi Aseswyr Ôl-osod PAS2035 a Chydlynwyr Ôl-osod PAS 2035.
Mae’r broses o ôl-osod eich cartref fel y ganlyn:
Canfod cyngor
Defnyddiwch wefan Cartrefi Clyd i ddysgu mwy am ôl-osod.
Penodi Cydlynydd Ôl-osod
Darganfyddwch Gydlynydd Ôl-osod y gallwch ymddiried ynddynt
Asesiad Ôl-osod
Darganfyddwch Asesydd Ôl-osod i gynnal asesiad.
Gwerthusiad
Darn sy’n edrych ar ba ddatrysiadau sydd ar gael i’ch cartref, ac yn rhoi cyfle i’r cleient i ddeall yr hyn sy’n bosib a dewis llwybr ymlaen.
Cynllun Gwelliant Personol
Darn sy’n edrych ar bopeth sydd angen cael ei wneud i’r tŷ, yn y drefn gywir, hyd at 2050. Mae hwn yn creu cynllun i’r adeilad fod y gorau fedrith fod.
Dylunio a manyleb
Yn dibynnu ar y math o adeilad, yn enwedig os mae’n adeilad ‘treftadaeth’ neu uchel, mae angen i ddylunwyr fod a chymwysterau cywir a chyda phrofiad digonol i ymgymryd â’r gwaith.
Gosodwr cymeradwyedig
Yn dibynnu ar y gwaith, naill ai drwy MCS neu Trustmark. Maent yn syrthio o dan PAS2030 ar hyn o bryd.
Profi, comisiynu, trosglwyddo
Gwerthuso
Trustmark – y corff sicrhau safon ar gyfer llywodraeth y DU yn cadw’r holl data yn ei Stordy Data. Mae Trustmark hefyd yn cynnwys teclyn chwilio i chi allu darganfod contractwyr sydd wedi’u cofnodi ar gyfer gwaith ôl-osod.
Mae gwybodaeth fanwl am PAS 2035 ar gael yma.
