
Cyflwr

Cyflwr
Mae cartref sydd wedi’i gadw’n dda’n gallu bod tua 30% yn fwy effeithlon nag un sydd heb ei gadw’n dda. Mae rhoi trefn ar eich tŷ’n gallu bod yn fesur i arbed ynni felly.
Mae cartrefi angen cynnal a chadw cyson er mwyn eu cadw mewn cyflwr da ac yn gweithio’n dda. Mae hyn yn aml wedi cael ei esgeuluso dros gyfnodau o fywyd adeilad. Wrth ddechrau gwaith ôl-osod, mae’n aml yn bosib i ddatguddio nifer o broblemau annisgwyl sydd angen eu trwsio. Mae’n bwysig felly i reoli’r risg drwy ddeall yr adeilad yn iawn cyn dechrau unrhyw brosiect ôl-osod. Mae arolwg cyflwr y broses Cartrefi Clyd felly’n rhan allweddol o’n gwaith.
Mae cyflwr eich adeilad yn cael effaith fawr ar ei ôl-osod. Mae gwaith i gael eich cartref at gyflwr addas i dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni yn gallu bod rhan mawr o gost y gwaith. Mae ambell fesur yn callu cael eu haddasu fel bod gwella cyflwr yn rhan o’u gwireddu.
Mae cynifer o broblemau sy’n gallu effeithio ar adeilad fel nad yw hi’n bosib i’w trafod i gyd yma, ond dyma rai ohonynt:
| Problem | Enghraifft |
|---|---|
| Defnydd o ddeunyddiau anaddas | Render sement a pwyntio ar waliau solet Gwaith cerrig wedi’u paentio |
| Gwaith nad yw’n cyrraedd y safon | Render dros gwrs gwrth-ddamp Ymestyniadau heb eu clymu i’r prif adeilad yn iawn |
| System dŵr glaw nad yw’n cael ei gynnal a chadw’n iawn | Gwteri’n gollwng Draeniau wedi’u rhwystro |
| Hindreulio | Pwyntio ar goll Render wedi treulio |
| Gwelliannau | Ffenestri dwbl heb dyllau awyr addas Lloriau caled anaddas |
| Penderfyniadau mewn anwybodaeth | Llwybrau wedi’u codi o amgylch adeiladau Tyllau awyr wedi’u rhwystro |
| Normau’r diwydiant | Cwrs gwrth-ddamp wedi’i chwystrellu Insiwleiddio’n rhwystro tyllau awyr |
