Arwyddocâd

Arwyddocâd

Arwyddocâd

Mae gan “arwyddocad” ddiffiniad ffurfiol mewn cyfraith cynllunio. Mae rhai adeiladau wedi cael eu hamddiffyn rhag newid drwy ‘listio’ ffurfiol neu statws ardal arbennig. Er enghraifft: ardal gadw, parc cenedlaethol, neu ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae camau ffurfiol sydd angen cael eu dilyn i wireddu ôl-osod mewn tai sydd wedi’u hamddiffyn.

Mae adeiladau nad ydynt wedi’u hamddiffyn hefyd yn gallu dwyn arwyddocad. Mae natur yr arwyddocad yn fwy goddrychol, efallai, ond yr un mor bwysig o ran ein hamgylchedd. Mae’n bosib bod gan adeilad arwyddocad i’r perchennog neu’r gymuned leol.

Gall ôl-osod newid ymddangosiad adeilad yn fawr, felly gall hwn fod o bwys yn nhermau teimlad yr adeilad neu olwg y stryd.

Er enghraifft gallai newid ffenestri o fframiau pren at uPVC gael effaith “ddrwg” ar edrychiad yr adeilad.

Byddai rendro tŷ teras pan fo gweddill y teras gyda manylion bric yn cael effaith ar unffurfiaeth y bloc teras.

Mae estheteg yn rhan bwysig o’n diwylliant, ac mae hyn yn parhau’n wir ar gyfer yr hyn ry’n ni’n ei adeiladu. Rydym yn gosod gwerth ar arddull / deunyddiau penodol, ac mae angen bod yn sensitif am hyn fel rhan o unrhyw brosiect ôl-osod.

Rhannwch...