Amdanom ni

Amdanom ni

Amdanom ni

Yn 2024, bydd Cartrefi Clyd yn darparu gwasanaeth ôl-osod i bedair ardal yng Nghymru fel partneriaeth rhwng Cwm Arian Renewable Energy, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), Lightfoot EnterprisesYnni Llŷn, Awel Aman Tawe, Swansea Environment Centre a Rounded Developments Enterprises, gyda chefnogaeth o Ynni Cymunedol Cymru. Bydd rhagor o bartneriaid cymunedol yn ymuno â’r gwasanaeth Cartrefi Clyd fis Medi, gan ehangu’r llefydd y byddwn yn cynnig ein gwasanaethau.

Mae CARE ac AAT wedi’i leoli yn ne orllewin Cymru, DEG ac Ynni Llŷn yn y gogledd orllewin, Lightfoot Enterprises yng Nghanolbarth Cymru a Rounded Development Enterprisises yn y de ddwyrain. Y gobaith yw darparu gwasanaeth ledled Cymru, ond bydd teithio o bosib yn arwain at gostau ychwanegol.

Mae Cartrefi Clyd fel prosiect wedi’i ymrwymo at gydweithio. Yn yr ysbryd hwn rydym yn rhannu straeon dienw, astudiaethau achos a gwybodaeth gyda’r Welsh Low Carbon Hub ac eraill sy’n ceisio dilyn yr ymarfer gorau o ran ôl-osod.

Hoffwn gydnabod cefnogaeth a phartneriaeth:

Energy Industry Voluntary Redress Scheme

Together for the Planet Fund

Ynni Cymunedol Cymru

Cartrefi Gwyrdd Cymru

Mae’r wefan hon yn brosiect wedi’i gyflawni a’i gefnogi gan aelodau o Ynni Cymunedol Cymru drwy Gronfa Together for the Planet.

Rhannwch...