Ffactorau eraill

Ffactorau eraill

Ffactorau eraill

Mae ôl-osod cartref yn brosiect cymhleth, mae nifer o ffactorau gwahanol sy’n dylanwadu ar ei gilydd. Dyma gyflwyniad i rai o’r pethau sy’n cael eu hanwybyddu o bryd i’w gilydd.

Mae’r math o dŷ rydych chi’n ôl-osod yn cael dylanwad. Adeiladwyd tai mewn dulliau gwahanol dros amser, ac mae hyn yn cael effaith ar sut y dylwn ni drîn tai unigol. Mae tai hefyd wedi cael eu newid, ymestyn a’u ‘gwella’ dros amser ac mae angen ni fod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn. Mae Cartrefi Clyd yn gweithio i sicrhau bod datrysiadau’n ystyried elfennau mwyaf sensitif yr adeilad, ac yn lleihau’r risg.

Mae arwyddocad yr adeilad yn nhermau ei berthynas â’r perchennog a’r gymuned leol yn bwysig hefyd. Rhaid cadw ein treftadaeth ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Mae sut yr ydym yn byw mewn tŷ yn gallu newid blaenoriaethau. Bydd datrysiadau’n amrywio ar gyfer tai tebyg oherwydd bod un yn cael ei ddefnyddio gan deulu ifanc, un arall gan bâr sy’n gweithio, un arall gan rywun sydd wedi ymddeol. Mae rhaid ystyried pob ffactor cymdeithasol.

Gweler hefyd

Rhannwch...