
Inswleiddio

Inswleiddio
Un ffordd ymarferol o sicrhau bod eich cartref yn fwy cysurus ac ynni-effeithlon yw inswleiddio waliau ceudod, lloriau a thoeon, lle nad oes unrhyw inswleiddio yn barod (neu lle bo’r inswleiddio yn hen iawn). Mae hyn yn golygu bod llai o wres yn gallu dianc.
Inswleiddio Llofftydd
Inswleiddio’r llofft yw un o’r mathau o inswleiddio rhataf a haws i’w gwirio a’u huwchraddio.
Argymhellir bod inswleiddio’r llofft tua 12″ o drwch, neu fwy. Os oes gennych lai nag 8″ yna argymhellir eich bod yn gosod mwy.
Y defnydd a ddefnyddir fel arfer yw Rockwool, a gellir ei brynu mewn llawer o siopau DIY neu nwyddau adeiladu. Mae hwn yn ffibr sy’n cael ei nyddu o ddefnyddiau craig toddedig sy’n sgil-gynnyrch i’r diwydiant dur. Gellir ei brynu’n rhydd, neu wedi’i amgáu mewn casin plastig fel ei fod yn fwy dymunol i’w drafod.
Ambell bwynt sy’n werth eu nodi:
Tanciau Dŵr Oer – Dylech adael bwlch yn yr inswleiddio o dan unrhyw danciau dŵr oer yn y llofft. Yna, dylech inswleiddio’r tanc ar y top ac o amgylch yr ochrau (e.e. gyda siaced addas), gan barhau i lawr at lefel y trawstiau. Dylid lagio unrhyw bibau yn y llofft hefyd gyda lagin sydd wedi’i siapio’n barod ac sy’n ffitio’n dynn, neu rywbeth tebyg, i’w hatal rhag rhewi. Mae yna gyfarpar i ddiogelu pibau rhag rhew ar gael nawr hefyd os yw’ch pibau’n dueddol o rewi.
Agoriadau Llofft – Hyd yn oes os yw’ch llofft wedi’i inswleiddio’n dda, os nad yw’r agoriad neu’r drws bach yn y llofft wedi’i selio’n iawn gyda defnydd atal drafftiau, byddwch yn gwastraffu gwres. Dylai caead yr agoriad fod wedi’i inswleiddio hefyd.
Goleuadau Cilannog yn y Nenfwd – dylai’r rhain fod wedi’u bocsio i mewn gyda deunyddiau gwrth-dân a’u hinswleiddio, gyda fent ar y top. Gweler www.thermahooddirect.com
Nenfydau sydd ar Osgo
Mae yna lawer o nenfydau ar osgo sydd ddim wedi cael eu hinswleiddio, hyd yn oed os yw’r llofft wedi’i inswleiddio ble mae’r nenfwd yn wastad. Byddwch yn gweld nenfydau ar osgo lle mae’r ystafell yn ymestyn ychydig i mewn i ofod y to fel bod rhywfaint o’r nenfwd yn yr ystafell yn dilyn osgo’r to.
Fel arfer, mae bron yn amhosib sleidio’r inswleiddio i lawr rhwng y nenfwd a gorchudd y to, o’r top. Yr unig ffordd o inswleiddio nenfydau sydd ar osgo yw gosod defnydd inswleiddio ar y nenfwd sydd ar osgo, o’r gwaelod.
Fel arfer, defnyddir techneg debyg i osod inswleiddio mewnol ar wal, h.y. gosod batiau inswleiddio ar yr arwyneb, ac yna gorffeniad o blastr. Rhaid gofalu eich bod yn gwybod a oes angen defnyddio defnyddiau sy’n anadlu neu ddefnyddiau sydd ddim yn anadlu, ac a ddylid defnyddio rhwystr anwedd ai peidio.
Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan Historic England, yma.
Inswleiddio Waliau Ceudod
Os oes waliau ceudod gennych, efallai y gallwch gael y rhain wedi eu hinswleiddio.
Fwy na thebyg mai briciau ceudod (dwy wal friciau gyda cheudod rhyngddynt sydd fel arfer tua 2″) yw mwyafrif y tai a adeiladwyd o friciau rhwng 1930 a’r presennol. Bron yn ddieithriad, roedd y tai briciau a adeiladwyd cyn 1910 o friciau solid h.y. trwch dwy fric, ond heb geudod rhyngddynt. Rhwng y dyddiadau hyn gallai fod y naill neu’r llall.
Uwchraddiwyd y rheoliadau adeiladu yn 1976 i ddechrau gosod y lefelau inswleiddio lleiaf mewn cartrefi domestig, felly, o tua’r adeg hon, roedden nhw’n dechrau inswleiddio’r waliau. Os adeiladwyd eich tŷ cyn 1976 mae’n annhebygol fod inswleiddio wedi ei adeiladu i mewn adeg adeiladu’r tŷ. Ers hynny, ôl-osodwyd inswleiddio ar lawer o dai. Mae’n weddol hawdd gwneud hyn. (Diwygiwyd safonau adeiladu nifer o weithiau ers hynny er mwyn cynyddu’r gofynion o ran effeithlonrwydd ynni yn raddol).
Bydd y gosodwr yn drilio tyllau yn uniadau’r morter bob rhyw 2m dros ardal y wal, ac yn chwistrellu inswleiddio i mewn i’r ceudod. Unwaith y bydd wedi gorffen, bydd yn llenwi’r tyllau ac fel arfer mae’n weddol dda am gyfateb lliw’r llenwad gyda lliw’r morter. Serch hynny, fel arfer mae’n bosibl gweld y tyllau hyn yn y wal wrth edrych yn ofalus iawn, os yw’r inswleiddio wedi cael ei ôl-osod.
Os nad ydych yn sicr (e.e. mae wedi cael ei adeiladu yn y 1970au, gall gosodwr ddrilio twll ac archwilio’r ceudod gyda bôrsgop, a gall weld a yw’r ceudod wedi cael ei lenwi ai peidio. Os ydych yn gofyn i osodwr lenwi’r wal, fel arfer bydd yn gwirio gyda bôrsgop yn gyntaf er mwyn sicrhau bod y ceudod yn addas i’w lenwi, oherwydd mae yna achosion lle nad yw’n synhwyrol (e.e. os oes gormod o lenwad morter yn y ceudod).
Os oes lleithder yn treiddio i’r tŷ, neu os ydyw mewn lleoliad sy’n agored iawn i’r glaw, efallai na fyddai’n ddoeth i chi lenwi’r ceudod. Ond os nad yw hyn yn wir, argymhellir inswleiddio unrhyw geudodau sydd heb eu llenwi.
Inswleiddio Waliau Solid
Mae’n debygol y bydd gan dai a adeiladwyd cyn 1910, os ydynt wedi eu gwneud o gerrig neu friciau, waliau solid h.y. dim ceudod. Os yw hyn yn wir, yr unig opsiwn er mwyn gwella’r inswleiddio yw ychwanegu inswleiddio naill ai ar y tu allan neu’r tu mewn (Inswleiddio Waliau Allanol neu Inswleiddio Waliau Mewnol).
Yn dechnegol, mae Inswleiddio Waliau Allanol yn well nag Inswleiddio Waliau Mewnol oherwydd mae’r gwaith cerrig trwm tu mewn i’r inswleiddio ac mae’n storio gwres gan sicrhau bod y tymheredd tu mewn yn fwy sefydlog. Mae hefyd yn haws osgoi gadael pontydd oer (e.e. rhwng lloriau). Fodd bynnag, yn aml nid yw Inswleiddio Waliau Allanol yn addas, am fod y tŷ mewn parth cadwraeth, neu am resymau technegol eraill, er enghraifft nid oes digon o fargodion ar y to i warchod ymylon uchaf yr inswleiddio.
Mae gofyn dylunio, cynllunio a gosod y ddwy dechneg yn ofalus er mwyn sicrhau nad ydych yn creu unrhyw drafferthion fel anwedd tu ôl i’r inswleiddio, a sicrhau nad oes unrhyw lwydni’n tyfu. Gallai amatur cymwys wneud y gwaith, ond dim ond ar ôl gofyn am gyngor technegol cywir a dilyn y cyngor hwnnw. Fel arall, dylech ofyn i weithiwr proffesiynol profiadol wneud y gwaith.
Mae gan Heritage England ddogfennau gwybodaeth da sy’n disgrifio’r technegau y gellir eu defnyddio: https://historicengland.org.uk/images-books/publications/eehb-insulating-solid-walls/
Ffynhonnell arall sy’n cynnig cyngor da yw gwefan Tŷ Mawr, gweler https://view.publitas.com/p222-14383/retrofit-booklet-v2022-89okaeydebek/page/1
Inswleiddio o Dan y Llawr
Yn ddelfrydol, dylid inswleiddio lloriau pob tŷ, ond mae hon yn broses eithaf drud ac mae’n ymyrryd tipyn. Mae’n well gwneud hyn pan fyddwch yn gwneud gwaith mawr arall ar y tŷ. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: https://historicengland.org.uk/advice/technical-advice/energy-efficiency-and-historic-buildings/insulating-floors-in-historic-buildings/



