Gwresogydd trydan

Gwresogydd trydan

Gwresogydd trydan

Mae gosod pympiau gwres yn gwneud mwy o synnwyr mewn adeiladau nad ydynt yn rhan o’r grid yn sgil y ffaith fod y gwahaniaeth mewn cost yn llai, ond mae costau’n dal i fod yn sylweddol. Opsiwn rhatach fyddai edrych ar wresogi trydanol llai effeithlon (100%) a gwneud y mwyaf o dariffau rhatach. Y ffordd o wneud hyn yw drwy wresogyddion storio. Mae’r rhain yn gost effeithiol DIM OND os oes gennych dariff ‘Economy 7’ dros nos neu dariff Amser Defnydd (Time of Use).

Nid yw cwmnïau bellach yn gosod mesuryddion Economy 7 ac felly heblaw fod gennych chi un hanesyddol y prif opsiwn yw edrych ar dariffau Amser Defnydd.

Mae tariffau Amser Defnydd yn gweithio drwy ddarparu trydan yn rhad (tua 25% o’r gost arferol) pan fo’r galw yn isel ac mae’r cyflenwad yn fwy na’r galw – mae hwn yn tueddu i fod yn ystod oriau mân y bore. Mae tariffau weedyn yn cynyddu (oddeutu 25% yn uwch) pan fo galw yn uchel, felly yn gyffredinol rhwng 5 a 7 yr hwyr. Felly gallwch osgoi’r tariffau drud drwy ‘wefru’ eich gwres dros nos. Gellir rheoli gwresogyddion storio yn haws a gellir eu rhaglenni i gadw eich cartref yn gynnes drwy’r dydd a’r nos, felly sicrhewch eich bod yn derbyn cyngor da oddi wrth y sawl sy’n gosod er mwyn sicrhau fod gennych ddigon o gapasiti i’ch cadw’n gyfforddus.

Nodiadau:

Mae tariffau Amser Defnydd yn gofyn am Fesurydd Clyfar SMETS2 i fesur eich defnydd.

Er mwyn osgoi unrhyw dariffau uwch gallwch hefyd edrych ar system fatri sydd hefyd yn ailwefru dros nos am bris isel ac yna’n rhyddhau’r egni hwn sydd wedi storio pan fo tariffau yn codi.

Mae’r tariffau Amser Defnydd hefyd yn helpu’r grid i gydbwyso galw ac mae llyfnhau’r llif yn ystod 24 awr o fudd

Rhagor o wybodaeth yn: https://energysavingtrust.org.uk/time-use-tariffs-all-you-need-know/

Rhannwch...