
Cyfnewid boileri

Cyfnewid boileri
Cyfnewid am foiler mwy effeithlon
Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng boeleri yw p’un ai eu bod yn cyddwyso ai peidio. Mae hen foeleri yn tueddu i fod yn anghyddwysol, ond mae pob model newydd yn cyddwyso. Gallwch wirio effeithlonrwydd eich hen foeler drwy ddefnyddio’r Bas Data Nodweddion Cynnyrch yn https://www.ncm-pcdb.org.uk/sap/
Fel rheol gyffredinol, os yw eich boeler yn anghyddwysol dylech ystyried ei gyfnewid, naill ai â phwmp gwres neu â boeler cyddwysol mwy effeithlon.
Byddai’n werth i chi ofyn am ragor o gyngor er mwyn penderfynu pa opsiwn i’w gymryd. Gellir dod o hyd i wybodaeth mwy cyffredinol fan hyn: https://energysavingtrust.org.uk/advice/boilers/
