
Gwresogi

Gwresogi
Mae system gwresogi effeithlon yn allweddol ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Mae’r math o wresogi sy’n cael ei ddefnyddio’n ddibynnol ar argaeledd ffynhonellau, eu heffeithlonrwydd a’u cost.
Lle bo nwy o’r rhwydwaith ar gael, dyma sy’n dueddol i fod y dewis ar gyfer gwresogi am ei fod yn costio’n is, a dylanwad penderfyniadau isadeiledd ein llywodraeth. Fodd bynnag, mae’r maes yn newid yn gyflym gyda’r dyhead i drydaneiddio a dyrchafiad pympiau gwres.
Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau i’r perchennog cartref yn gymhleth ac yn newid yn ôl y math o dŷ, diddordeb mewn lleihau carbon, arbed costau, adnoddau ariannol, cefnogaeth gan y llywodraeth a mwy. Bydd Cartrefi Clyd yn eich helpu chi drwy’r cymhlethdodau i greu datrysiad personol i chi a’ch cartref.





