
Pympiau gwres

Pympiau gwres
Egwyddor pwmp gwres yw ei fod yn gallu cynhyrchu mwy na 1kWtherm o wres y gellir ei ddefnyddio o 1 kWa o drydan. Mae pob gwresogydd trydan heblaw am bympiau gwres yn cynhyrchu union 1 kWtherm o wres o 1 kWa o drydan, sydd mwy neu lai yn 100% effeithlon. Mae’r swm o wres ‘ychwanegol’ mae pwmp gwres yn ei greu yn cael ei alw’n ‘Coefficient of Performance’ (CoP). Felly mae pwmp gwres gyda CoP o 3 yn gallu creu gwerth 3kWtherm o wres o bob 1kWa o drydan. Mae hyn yn amrywio ym mhob pwmp gwres ac mae’r amrywiolyn yn ymwneud â:
- Technoleg gwahanol gwmnïau
- Tymereddau amgylchol (yn yr aer neu’r pridd)
- Tymereddau sydd eu hangen yn y cartref
- Yr angen i wresogi dŵr poeth ynghyd â gwresogi gofod
Yr elfen bwysicaf o’r rhain yw’r gwahaniaeth mewn tymheredd rhwng lle mae’r pwmp gwres yn casglu’r gwres (h.y. tu allan) a thymheredd beth bynnag rydych yn ei wresogi (h.y. y dŵr sy’n cylchredeg yn eich rheiddiaduron). Y mwyaf yw’r tymheredd, yr isaf yw’r CoP.
Mae hyn yn bwysig i wybod oherwydd os mai rheiddiaduron bychan sydd gennych, mae angen i chi eu cadw’n gynhesach er mwyn darparu gwres i gadw eich tŷ yn gynnes, ac mae hyn yn golygu fod y CoP yn isel felly bydd y pwmp gwres yn defnyddio mwy o drydan.
Er mwyn i bwmp gwres fod yn fforddiadwy i’w gynnal, mae’n rhaid cynllunio’r system i weithredu ar y tymheredd gweithredu isaf posibl, ac mae hynny’n golygu defnyddio rheiddiaduron mor fawr â phosibl, neu’n ddelfrydol gwresogi tanlawr.
Mae hefyd yn golygu bod ffynhonnell aer yn llai effeithlon pan eu bod hi’n oerach tu allan.
Yn gyffredinol mae Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer yn rhedeg ar oddeutu 2-2.5 CoP yn y DU, ond mae Pympiau Gwres o’r Ddaear yn fwy effeithlon ar oddeutu 3-3.2 CoP. Mae hyn oherwydd fod tymhereddau daear yn fwy cyson a hefyd yn uwch nag aer yn enwedig pan fod y galw mwyaf amdanynt mewn tywydd oer.
Mae Pympiau Gwres o’r Ddaear lawer yn ddrytach i’w gosod am eu bod yn gofyn am naill ai osod y pibau mewn gofod gardd neu ddrilio twll dwfn.
Nid oes modd modd cyfnewid pwmpiau gwres yn uniongyrchol ar gyfer eich system wresogi presennol. Mae’r angen am reiddiaduron mwy neu wresogi tanlawr ynghyd â lleihau galw am egni drwy wella defnyddiau yn gyffredinol yn golygu y bydd systemau yn costio degau o filoedd. Y fantais fawr yw ei fod yn diddymu’r galw am nwy / olew / glo ac yn ei osod fel rhan o’r cyflenwad trydan ac mae hyn yn y pen draw yn haws i’w ddad-garboneiddio drwy’r grid.
Pympiau Gwres O’r Aer vs Pympiau Gwres O’r Ddaear
Bydd pwmp gwres o’r ddaear ychydig yn rhatach i’w redeg, oherwydd ar ddyddiau oeraf y gaeaf, bydd y pwmp gwres o’r ddaear yn gallu cael mynediad at wres amgylchol ychydig yn dwymach o dan y ddaear na’r pwmp gwres o’r aer sydd uwchlaw’r ddaear. Fodd bynnag, bydd y pwmp gwres o’r ddaear yn costio oddeutu ddwywaith yn fwy a rhagor i’w osod, felly yn gyffredinol bydd y pwmp gwres o’r aer yn ddatrysiad rhatach i’r rhan fwyaf o bobl.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am bympiau gwres fan hyn:
https://energysavingtrust.org.uk/advice/air-source-heat-pumps/
https://energysavingtrust.org.uk/advice/ground-source-heat-pumps/
Mae Llywodraeth y DU yn ammog gosod pympiau gwres drwy gefnogaeth grant. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.gov.uk/apply-boiler-upgrade-scheme
