Stofau llosgi pren

Stofau llosgi pren

Stofau llosgi pren

Mae nifer o bobl yn llosgi pren mewn stôf fel atodiad i’w prif system wresogi, ond nawr mae boeleri bio-màs yn cynnig dewis amgen posibl ar gyfer tai nad ydynt yn rhan o’r grid.

Ffynhonell egni adnewyddadwy yw bio-màs, wedi’i gynhyrchu o sylwedd organig, gall hwn fod yn bren neu’n blanhigion arbenigol. Mae’r gyfran o garbon deuocsid y mae’n rhyddhau pan gaiff ei logi yn sylweddol is na thanwyddau ffosil. Mae bio-màs ar gael ar sawl ffurf gwahanol: coed, asglodion, peledi ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi ystafelloedd unigol neu gartref cyfan.

Yn ôl EST gall boeler bio-màs wedi’i bweru â phren arbed hyd at £1,100 y flwyddyn i chi o’i gymharu â hen system wresogi trydan.

Stôf llosgi pren

Sicrhewch fod gennych stôf pren o ansawdd uchel. Mae stôf pren caëedig gymaint yn fwy effeithlon na thân agored.

Sicrhewch fod eich pren yn sych (llai na 20% o laethder) gan fod pren gwlyb yn llosgi’n aneffeithlon ac yn cynhyrchu llawer o ronynnau niweidiol

Byddwch yn ymwybodol o gost pren. Os ydych chi’n prynu pren adwerth, bydd sach byrdew o bren am £50 oddeutu 5c-8c/kWa, sydd fawr llai na phris olew neu nwy. (mae pris gwirioneddol y gwres yn dibynnu’n fawr arb a mor effeithlon yw eich stôf bren, mae’r costau hyn ar gyfer stôf sy’n weddol effeithlon)

Byddwch yn ymwybodol o gost pren. Os ydych chi’n prynu pren adwerth, bydd sach byrdew o bren am £50 oddeutu 5c-8c/kWa, sydd fawr llai na phris olew neu nwy. (mae pris gwirioneddol y gwres yn dibynnu’n fawr arb a mor effeithlon yw eich stôf bren, mae’r costau hyn ar gyfer stôf sy’n weddol effeithlon).

Os oes gennych stôf bren mewn unrhyw stafell, dylai fod fent aer yn yr ystafell i alluogi aer ymlosgiad i ddod i mewn, heblaw fod gan y stôf ei ffyrdd aer ei hun i ddod ag aer i mewn (peth prin).

Os ydych yn prynu stôf newydd yna gwiriwch amodau cynllunio lleol, prynwch fodel effeithlon (mae gan bob un sgôr effeithlonrwydd ynni) a hefyd gosodwch ffyrdd aer yn uniongyrchol i mewn i’r stôf (mae hyn yn osgoi sefyllfa lle mae fent aer di-reolaeth yn eich wal a hefyd defnyddio aer twym ar gyfer ymlosgiad).

Rhannwch...