Storio ynni

Storio ynni

Storio ynni

Gall batris redeg ar ddau brif ffynhonnell egni: PV neu drydan y prif gyflenwad. Efallai ei fod yn rhyfedd ystyried rhedeg batri o’r prif gyflenwad, ond mae nifer o gwmnïoedd bellach yn cynnig tariffau Amser Defnydd (Time of Use ToU). Mae’r ToU yn gwerthu egni yn rhad yn y nos ac yna’n codi premiwm yn ystod amseroedd galw brig. Oddeutu 25% o’r gyfradd safonol yw’r tariffau nos, tra bod tariffau brig oddeutu 125%. Felly os ydych yn gallu storio egni yn y nos ac yn ei ddefnyddio yn ystod y dydd mae’n bosib y gallwch leihau eich costau egni mewn modd radical.

Mae storio eich egni PV yn beth da wrth gwrs, yn enwedig os ydych chi allan yn ystod y dydd. Gall hwn hefyd gael ei gyfuno â thariff ToU i’ch helpu drwy fisoedd tywyllach y gaeaf. Y mesur cyffredinol yw y dylai’r storfa batri fod dwbl allbwn y PV array. Felly mae 2.5kWa PV array yn gweithio orau gyda batri 5kWa. Fodd bynnag, noder os ydych yn defnyddio tariff ToU mae mwy na thebyg yn well gorfaintioli’r batri er mwyn hwyluso cael digon o ofod i osgoi mewnbynnu yn ystod tariffau brig.

Mae pob system bellach yn ‘glyfar’ ac yn galluogi’r cwsmer i osod amseroedd defnydd, faint o ynni I’w storio ayyb. Maen nhw hefyd yn cyfnewid defnydd er mwyn blaenoriaethu’r ynni sydd wedi ei storio cyn mewnbynnu o’r grid. Mae’n well defnyddio un gwneuthurwr / system er mwyn sicrhau fod hyn oll yn gweithio’n ddi-rwystr.

Noder mai cyfnod gwarant y rhan fwyaf o fatris ar hyn o bryd yn gyffredinol yw 10 mlynedd.  

Mae gosod batri yn costio oddeutu £500/kWa ar hyn o bryd (2023) gyda arbedion posib o oddeutu £700 bob blwyddyn o’i storio. Fodd bynnag, mae’r pris fesul kWa ar gyfer allforio a mewnforio newidiadau ac felly os yw costau mewnforio yn codi mae batris yn dod yn fwy deniadol a vice versa.

Galwch hefyd ddefnyddio eich paneli solar PV i greu dŵr poeth. Gallwch osod dyfais sy’n canfod p’un ai ydy eich paneli PV yn allforio pŵer i’r grid, ac os felly, yn gallu ei ddargyfeirio i’ch tanc dŵr poeth, gan wresogi eich dŵr am yr un pris a fyddech chi wedi ei dderbyn am y pŵer a allforiwyd (am ddim os ydych chi ar FIT, gwerth yr SEG, yn gyffredinol tua 5c/kWa os yw e wedi ei osod wedi’r FIT). Gweler https://myenergi.com/product/eddi/ neu’r Immersun https://www.immersun.co.uk/all-products/immersun .

Rhannwch...