Cymorth Cymru gyfan

Cymorth i Gymru gyfan

Os ydych yn dymuno ôl-osod eich cartref, neu ei wella, yna mae yna gost ariannol ynghlwm. Wrth osod mesurau sy’n creu cartref iach ac effeithlon, mae yna fuddion ariannol ac amgylcheddol hirdymor. Serch hynny, mae’r costau cysylltiedig yn gallu atal llawer o gartrefi rhag gweithredu, yn enwedig yn ddiweddar gyda’r argyfwng costau byw ar ein gwarthaf. Felly, mae Cartrefi Clyd wedi coladu gwybodaeth am y nawdd a’r cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd i aelwydydd ledled Cymru. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon os bydd mesurau cymorth eraill yn cael eu cyflwyno i helpu aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni.

Cynlluniau cyllido

Cartrefi Gwyrdd Cymru

Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn gynllun gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi’i reoli gan Fanc Datblygu Cymru. Mae’r cynllun wedi’i lunio i gefnogi pobl wrth iddyn wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’w cartrefi. Mae’r cynllun yn cynnig arian di-log a chyngor arbennigol, sy’n helpu pobl i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan: https://developmentbank.wales/green-homes-wales

NYTH

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw NYTH. Mae ar gael i aelwydydd yng Nghymru sy’n cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, ac sy’n berchen yn breifat ar eiddo domestig neu’n rhentu eiddo domestig yn breifat. Yn ogystal, rhaid bod gan yr eiddo sgôr effeithlonrwydd ynni F neu G, a fyddai’n dangos bod effeithlonrwydd ynni’r cartref yn isel.

Caiff cartrefi eu hasesu’n unigol er mwyn penderfynu pa fesurau effeithlonrwydd ynni y mae eu hangen a pha fesurau fyddai fwyaf effeithiol. Gallai’r rhain gynnwys mesurau fel inswleiddio, atal drafftiau a gosod boeler newydd. Nwy Prydain fydd yn gosod y mesurau arbed ynni.

Am ragor o wybodaeth am gynllun Nyth, rhowch glic ar www.nyth.llyw.cymru neu ffoniwch 0808 808 2244

Yn ein hadran am gyllid sydd ar gael ymhob ardal awdurdod lleol, mae yna wybodaeth am gynlluniau sy’n seiliedig ar gyllid Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni, sydd hefyd yn cynnig cymorth i’r rheiny sydd ag incwm isel ac sy’n byw mewn cartrefi anodd eu trin.

Y Cynllun Uwchraddio Boeleri

Y Cynllun Uwchraddio Boeleri yw’r unig gynllun gwella ynni yn y cartref y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ar hyn o bryd, sydd ddim yn seiliedig ar brawf modd. Mae’r cynllun hwn ar gael i bobl sy’n gosod pympiau gwres yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n cynnig £7,500 o flaen llaw ar gyfer pympiau gwres o’r awyr neu bympiau gwres o’r ddaear, neu £5,000 tuag at boeler biomass.

Rhaid ymgeisio i’r cynllun trwy eich gosodwr, ac felly eich cam cyntaf yw dod o hyd i osodwr. Rhaid iddo fod ag achrediad MCS. Gallwch ddod o hyd i osodwyr lleol ag achrediad MCS ar wefan MCS https://mcscertified.com/. Bydd y gosodwr yn eich arwain chi drwy’r broses.

Bydd arnoch angen Tystysgrif Perfformiad Ynni o dan 2 flwydd oed, felly os nad oes un gennych bydd gofyn i chi ei chomisiynu yn gyntaf. Ni ddylai’r Dystysgrif Perfformiad Ynni fod yn argymell inswleiddio waliau ceudod nac inswleiddio llofft, ac felly efallai y bydd gofyn i chi wneud rhywfaint o waith cyn ceisio am y Dystysgrif Perfformiad Ynni.

Mae yna rai gosodiadau sydd ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun, er enghraifft gosod pympiau gwres newydd yn lle hen rai a phympiau gwres hybrid (os oes boeler tanwydd ffosil gennych hefyd). Os oes eiddo’n cael ei adeiladu o’r newydd, bydd yn gymwys dim ond i’r rheiny sydd wedi comisiynu eu cartrefi eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae yna ddigon o arian yn y cynllun i ariannu 30,000 o osodiadau’r flwyddyn yn unig, ac mae hyn yn cynnwys gosodiadau ar gyfer busnesau bach. Felly, mae’r arian yn y cynllun yn debygol o ddod i ben o bryd i’w gilydd, nes i’r llywodraeth roi mwy o arian i mewn iddo.

Gostyngiad ar TAW ar fesurau sy’n arbed ynni

Er nad cyfle am nawdd yw hwn, mae trysorlys y DU wedi cyhoeddi cyfradd sero ar gyfer TAW wrth osod deunyddiau sy’n arbed ynni pan fydd y gwaith yn cael ei wneud  ar ôl 1 Ebrill 2002 a hyd nes 31 Mawrth 2027, yn cynnwys y dyddiad hwnnw. Cewch ragor o wybodaeth, a manylion yr hyn sy’n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn ar dreth TAW, yma.

Rhannwch...