
Dod o Hyd i Gosodwyr
Gall fod yn anodd dod o hyd i osodwr. Dyma ychydig o awgrymiadau i helpu.
Argymhelliad personol sydd orau bob amser, felly gofynnwch o fewn eich rhwydweithiau lleol.
Sicrhewch fod y gosodwr wedi’i achredu, ac y bydd y gwaith a gomisiynir yn cynnwys tystysgrif sy’n sicrhau ei fod wedi’i gwblhau i safon gydnabyddedig.
Sicrhewch fod gennych ddyfynbris clir ar gyfer y gwaith a wnaed, fel nad oes unrhyw syndod pan fydd yr anfoneb yn cael ei pharatoi.
Byddem yn argymell, os ydych yn cael gosod PV solar neu bwmp gwres, y dylech ddewis gosodwr sydd wedi’i gofrestru gyda’r cynllun MCS.
O ran inswleiddio waliau solet, yn fewnol ac yn allanol, mae’r rhain yn sgiliau arbenigol a rhaid gwneud y gwaith mewn ffordd sy’n sicrhau bod materion megis pontydd oer ac anwedd yn cael eu lleihau. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ymgynghorwch â phensaer neu syrfëwr adeiladu i sicrhau bod dyluniad a thechnoleg briodol yn cael ei ddefnyddio.
Ffynonellau gwybodaeth gosodwr

Masnach: Solar PV, pympiau gwres, gwresogi biomas
Mae’r rhan fwyaf o osodwyr am y technolegau hyn wedi’u rhestru ar y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) y gellir ei chwilio ar-lein a gallwch ddefnyddio hidlwyr yn ôl lleoliad.

Masnach: Pob fasnach
Trustmark yw’r unig gynllun sicrhau ansawdd a gymeradwywyd gan y llywodraeth ar gyfer contractwyr a gosodwyr sy’n gwneud gwaith ar eiddo domestig, ac mae cronfa ddata chwiliadwy ar-lein. Rhaid i’r busnesau a restrir fod wedi dangos eu bod yn cynnal y safonau gofynnol o ran cymhwysedd technegol, gwasanaeth cwsmeriaid ac arferion masnachu.
Yn anffodus, mae’r cynllun hwn yn ei gamau cynnar o hyd, felly nid oes cymaint o fusnesau ardystiedig yn gweithredu yng Nghymru eto, ond mae’n werth gwirio’r wefan fel ffynhonnell o osodwyr y gellir ymddiried ynddynt.

Masnach: Pob fasnach
Mae gan wefan AECB (Cymdeithas Adeiladu â Ymwybod Amgylcheddol) gyfeiriadur o’u holl aelodau. Mae’r gallu i chwilio a hidlo’r cyfeiriadur yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd.

Masnach: Pob fasnach
Ffederasiwn Meistri Adeiladu. Cronfa ddata gyffredinol ar gyfer contractwyr adeiladu, gyda gallu cyfyngedig i chwilio am wasanaethau penodol fel inswleiddio.
