CLYD IAWN

CLYD IAWN

CLYD IAWN

CLYD IAWN yw ein gwasanaeth ôl-osod llawn.  Byddwch yn derbyn y Tystysgrif Perfformiad Ynni, sgwrs, a thaith o gylch eich cartref gydag asesydd ôl-osod, ond bydd y gwasanaeth hwn yn un dyfnach, gyda’r asesydd yn casglu rhagor o wybodaeth am eich cartref. Bydd awr ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gasglu data ar lif awyr y tŷ, ei gyflwr a’i gyd-destun, ynghyd â sut ydych chi’n byw oddi fewn iddo.

Mae’r data ychwanegol wedyn yn cael ei brosesu i mewn i adroddiad Cartrefi Clyd sydd wedi’i deilwra ar gyfer chi. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei ysgrifennu gan gydlynydd ôl-osod arbenigol , ac yn cynnwys gwerthusiad unigryw i chi (yr hyn yr hoffech chi wneud gyda chyfeiriad at arbedion ynni, arian a CO2 wedi’u cyfuno gyda chostau gwario) a Chynllun Gwella Tymor Canolig (y camau yn y broses ôl-osod y gallech chi gymryd rhwng nawr a 2050).

Bydd adroddiad asesu ôl-osod Cartrefi Clyd yn cael ei gyflwyno mewn fformat sy’n hawdd ei ddeall gydag awgrymiadau allweddol, y meddwl y tu ôl iddynt ac adnoddau a chyngor perthnasol. Mae’r gwasanaeth CLYD IAWN yn dilyn proses ‘PAS2035’, sef y safon orau ym maes ôl-osod. Mae hefyd yn eich helpu chi i wella eich cartref drwy ôl-osod, am ei fod yn adnodd y bydd modd i chi rhannu gyda phenseiri a chontractwyr.

Rhannwch...