
I le mae’r arian dw i’n ei wario ar ynni’n mynd?

I le mae’r arian dw i’n ei wario ar ynni’n mynd?
Yn 2023, adroddwyd cynnydd anferthol mewn elw gan gwmnïau ynni, tra bod 40% o Gymru’n byw mewn tlodi tanwydd.
Mae angen newid rhywbeth sylfaenol yn ein system ynni.
Un dull i’ch galluogi i gymryd rheolaeth o’ch ynni yw drwy ôl-osod eich cartref – ei wneud mor gynnes, clyd a charbon isel ag sy’n bosib.
Mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar, pympiau gwres, inswleiddio a mesurau eraill mewn dull holistig – gan feddwl am ddeunyddiau’r adeilad, ei hinsawdd leol a sut rydych chi’n byw ynddo.
Cymerwch reolaeth dros bwy sy’n elwa o’ch ynni – archebwch asesydd ôl-osod.
Llenwch y ffurflen i ddechrau sgwrs gydag aelod o’n tîm ôl-osod ynglŷn â newid i gartref sydd wedi’i bweru’n effeithlon a glân.
Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad ôl-osod?
Ar ôl i chi fynegi diddordeb, bydd asesydd ôl-osod yn cysylltu â chi.

Ni fydd unrhyw ddisgwyliad arnoch chi i barhau â’r asesiad, ac ni fydd ein tîm yn sbamio eich e-bost os ydych chi’n newid eich meddwl.
Os ydych chi’n penderfynu parhau gyda’r asesiad ôl-osod, bydd yr asesydd yn gofyn am fanylion am yr adeilad ac yn trefnu ymweliad i asesu eich cartref.
Mae Cartrefi Clyd yn gyfan gwbl annibynnol ac wedi ei greu o fentrau cymunedol dibynadwy, sydd â hanes o ddarparu gwasanaethau i’w cymunedau lleol. Nid ydym yn gwneud y gwaith ôl-osod; dim ond yn eich darparu chi gyda llwybr i gael y mwyaf o’ch cartref – asesiad ac adroddiad ôl-osod.

Nawr eich bod wedi mynegi diddordeb, beth am gael cip ar rai o’r tudalennau defnyddiol sydd ar ein gwefan? Rydym wedi cynhyrchu tipyn o wybodaeth am y dewisiadau amgen i danwyddau ffosil, sy’n garedig i’r blaned ac yn cadw eich cartref yn glyd a chynnes, dilynwch y dolenni isod am fwy.













