Sut fedra i leihau ôl-troed carbon fy nghartref?

Sut fedra i leihau ôl-troed carbon fy nghartref?

Sut fedra i leihau ôl-troed carbon fy nghartref?

Mae hinsawdd y Ddaear yn newid – pa fath o fyd byddwn ni’n ei adael i’n plant a’n hwyrion?

Os ydych chi’n poeni am yr hinsawdd yn newid ac eisiau cymryd camau cadarnhaol ar sut i wella amodau byw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gallwch ystyried newid y dull rydych chi’n gwresogi ac yn pweru eich cartref.

Mae nifer o dechnolegau gwyrdd ar gael i’ch helpu chi, a chenhadaeth Cartrefi Clyd yw eich helpu chi i ddysgu mwy am ynni a gwresogi gwyrdd a glân a gwneud y penderfyniad cywir cyn buddsoddi.

Os ydych chi erioed wedi cael eich brawychu gan hanesion difrifol am asesiadau ôl-osod, nid ydych chi ar eich pen eich hunain. Fodd bynnag, mae Cartrefi Clyd yn brosiect cyfan gwbl annibynnol sydd wedi’i roi at ei gilydd gan fentrau cymunedol sydd â hanes o ddarparu gwasanaethau ynni glân i’w cymunedau.

Cymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol glân a gwyrdd – archebwch asesiad ôl-osod

Llenwch y ffurflen i ddechrau sgwrs gydag aelod o’n tîm ôl-osod ynglŷn â newid i gartref sydd wedi’i bweru’n effeithlon a glân.

    Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad ôl-osod?

    Ar ôl i chi fynegi diddordeb, bydd asesydd ôl-osod yn cysylltu â chi.

    Ni fydd unrhyw ddisgwyliad arnoch chi i barhau â’r asesiad, ac ni fydd ein tîm yn sbamio eich e-bost os ydych chi’n newid eich meddwl.

    Os ydych chi’n penderfynu parhau gyda’r asesiad ôl-osod, bydd yr asesydd yn gofyn am fanylion am yr adeilad ac yn trefnu ymweliad i asesu eich cartref.

    Mae Cartrefi Clyd yn gyfan gwbl annibynnol ac wedi ei greu o fentrau cymunedol dibynadwy, sydd â hanes o ddarparu gwasanaethau i’w cymunedau lleol. Nid ydym yn gwneud y gwaith ôl-osod; dim ond yn eich darparu chi gyda llwybr i gael y mwyaf o’ch cartref – asesiad ac adroddiad ôl-osod.

    Nawr eich bod wedi mynegi diddordeb, beth am gael cip ar rai o’r tudalennau defnyddiol sydd ar ein gwefan? Rydym wedi cynhyrchu tipyn o wybodaeth am y dewisiadau amgen i danwyddau ffosil, sy’n garedig i’r blaned ac yn cadw eich cartref yn glyd a chynnes, dilynwch y dolenni isod am fwy.

    Rhannwch...