Sut fedra i wneud fy nghartref yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni?

Sut fedra i wneud fy nghartref yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni?

Sut fedra i wneud fy nghartref yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni?

Mae newid hinsawdd yn golygu bod Cymru’n gweld rhagor o dywydd oer a gwlyb. Mae digwyddiadau tywydd eithriadol, hyd yn oed yma yng Nghymru lle nad ydym wedi profi gwres trofannol, yn golygu ein bod yn teimlo’r oerfel yn fwy nag erioed o’r blaen.

Ond gyda phrisiau trydan a nwy mor uchel – heb sôn am y costau sy’n cael eu codi pan fydd popeth wedi’i ddiffodd i arbed arian – mae’n ddigon posib eich bod yn meddwl mai dim ond y tywyllwch a’r oerfel sydd o’ch blaenau.

Does dim angen iddo fod fel hyn. Rhai newidiadau fan hyn, rhai gwelliannau fan draw, a gallwch gael cartref cynhesach, mwy clyd, sy’n barod am y dyfodol.

Mae gwneud buddsoddiad mewn technoleg glanach, gwyrddach heddiw yn helpu i’ch diogelu rhag unrhyw gynnydd mewn prisiau nwy a thrydan, gan eich cadw chi’n gynnes ac yn glyd drwy aeafau Cymru. Rydych yn buddsoddi er mwyn gwneud eich cartref yn lle gwell i fyw.

Mae tipyn o wybodaeth i’w phrosesu am y nifer o dechnolegau gwyrdd amrywiol sydd ar gael, felly er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir i’ch cartref chi, rydym wedi sefydlu gwasanaeth Cartrefi Clyd. Byddwn yn darparu asesiad ôl-osod cyfangwbl annibynnol i ddangos i chi sut mae defnydd ynni eich cartref yn gallu cael ei wella, wedyn eich cyfeirio chi at gontractwyr gellir ymddiried ynddynt sy’n gallu helpu gwireddu’r gwelliannau fydd yn eich helpu chi i fwynhau gaeaf cynnes a chlyd.

Cymerwch y cam cyntaf tuag at gartref cynnes a chlyd – archebwch asesiad ôl-osod

Llenwch y ffurflen i ddechrau sgwrs gydag aelod o’n tîm ôl-osod ynglŷn â newid i gartref sydd wedi’i bweru’n effeithlon a glân.

    Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad ôl-osod?

    Ar ôl i chi fynegi diddordeb, bydd asesydd ôl-osod yn cysylltu â chi.

    Ni fydd unrhyw ddisgwyliad arnoch chi i barhau â’r asesiad, ac ni fydd ein tîm yn sbamio eich e-bost os ydych chi’n newid eich meddwl.

    Os ydych chi’n penderfynu parhau gyda’r asesiad ôl-osod, bydd yr asesydd yn gofyn am fanylion am yr adeilad ac yn trefnu ymweliad i asesu eich cartref.

    Mae Cartrefi Clyd yn gyfan gwbl annibynnol ac wedi ei greu o fentrau cymunedol dibynadwy, sydd â hanes o ddarparu gwasanaethau i’w cymunedau lleol. Nid ydym yn gwneud y gwaith ôl-osod; dim ond yn eich darparu chi gyda llwybr i gael y mwyaf o’ch cartref – asesiad ac adroddiad ôl-osod.

    Nawr eich bod wedi mynegi diddordeb, beth am gael cip ar rai o’r tudalennau defnyddiol sydd ar ein gwefan? Rydym wedi cynhyrchu tipyn o wybodaeth am y dewisiadau amgen i danwyddau ffosil, sy’n garedig i’r blaned ac yn cadw eich cartref yn glyd a chynnes, dilynwch y dolenni isod am fwy.

    Rhannwch...