Toeau

Toeau

Toeau

Insiwleiddio Llofft (ar lefel dist) 

Insiwleiddio llofft yw un o’r mathau rhataf a symlaf o insiwleiddio i’w wirio a’i uwchraddio. Mae hefyd yn darparu ad-daliad ardderchog o ran buddsoddiad, er, mae hyn yn gostwng yn ôl ‘rheol dychweliadau gostyngol’.

Y trwch a argymhellir ar gyfer insiwleiddio llofft yw tua 12” (30cm) neu fwy. Os oes gyda chi llai na 8” (20cm) argymhellir eich bod yn cynyddu hwn i 12-16” (30-40cm).

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau insiwleiddio safonol a gellir prynu’r rhain mewn sawl siop DIY. Gellir ei brynu naill ai mewn rholiau, slabiau (battiau) neu’n gaëedig mewn casys plastig i wneud e’n fwy pleserus i weithio ag ef. Mae sawl deunydd insiwleiddio naturiol, fel gwlân dafad, ffibr pren a chywarch ond mae’r rhain yn fwy drud (ond yn well ar gyfer yr amgylchedd yn ehangach).

Rhai pethau sydd werth ei nodi:

Tanciau Dŵr Oer – Dylid gadael bwlch yn yr insiwleiddio o dan unrhyw danciau dŵr oer yn y llofft. Yna dylai’r tanc gael ei insiwleiddio ar y brig ac o gwmpas yr ochrau (e.e. â siaced addas), gan barhau at lefel y distiau. Hefyd dylai unrhyw bibau yn y llofft gael eu gosod â deunydd lagio wedi’i ffurfio o flaen llaw sy’n dynn am y pibau, neu ddeunydd cyffelyb, er mwyn eu hatal rhag rhewi. Mae offer diogelu pibau rhag rhew hefyd bellach ar gael os oes gennych bibau sy’n tueddu i rewi.

Hatshus Llofft – Hyd yn oed os oes gennych lofft sydd wedi’i insiwleiddio’n dda, os nad yw hatsh eich llofft wedi ei selio’n iawn gyda deunydd atal drafft, bydd gwres yn cael ei wastraffu. Dylid insiwleiddio caead yr hatsh hefyd. Gellir gwneud hyn drwy atodi insiwleiddio at ochr uchaf yr hatsh.

Dylid bocsio Goleuadau Nenfwd Cilfachog i mewn â deunyddiau gwrth-tân gan osod insiwleiddio drosto, gyda fent ar y brig. Gweler www.thermahooddirect.com

Storio – Os hoffech gadw eitemau yn y llofft dylech gadw mewn cof y bydd y llofft bellach naill ai’n oer neu’n boeth yn dibynnu ar y tymor, felly meddyliwch am yr hyn sy’n gwneud synnwyr i’w cadw yn y fath amgylchedd. Gellir creu ardaloedd uwch drwy ddefnyddio ‘pyst llofft’ neu bethau tebyg er mwyn codi darnau pren uwchlaw’r dustiau er mwyn gwneud lle i’r insiwleiddio fod rhwng 30-40cm o ddyfnder.

Awyru – mae angen i ofod llofft oer gael ei awyru’n dda ac felly bydd angen i chi sicrhau fod naill ai gennych fentiau bondo, teils neu grib sy’n gweithio.

Am fwy o wybodaeth am insiwleiddio llofft DIY ewch i: https://www.cse.org.uk/downloads/advice-leaflets/energy-advice/insulation-and-heating/building-performance/advice_leaflet_DIY_loft_insulation.pdf

Insiwleiddio Llofft (ar lefel trawst ac ar gyfer nenfydau ar ogwydd)

Insiwleiddio llofft yw un o’r mathau rhataf a symlaf o insiwleiddio i’w wirio a’i uwchraddio. Mae hefyd yn darparu ad-daliad ardderchog o ran buddsoddiad, er, mae hyn yn gostwng yn ôl ‘rheol dychweliadau gostyngol’. Mae insiwleiddio ar lefel trawst yn golygu, er bod maint y tŷ yn cynyddu (felly’n gofyn am fwy o wres) rydych chi’n creu gofod llofft cynnes sy’n well ar gyfer storio.

Y trwch a argymhellir ar gyfer insiwleiddio llofft yw tua 12” (30cm) neu fwy. Fodd bynnag, wrth ddelio gydag insiwleiddio mewn strwythur nenfwd mae hyn yn anodd i’w gyflawni gydag insiwleiddio ‘fflyffiog’ arferol. Gall insiwleiddio â bwrdd weithio’n llawer fwy effeithiol, er fod ganddynt rhai sgileffeithiau gwael o ran yr amgylchedd yn ehangach.

Mae’r byrddau sy’n perfformio’n well oddeutu 50% yn fwy effeithlon ac felly’n llwyddo i sicrhau’r gwerth insiwleiddio sydd ei angen o tua 6” (15cm) o ddyfnder. Mae’r rhain fel arfer wedi eu hatodi rhwng trawstiau (tra’n gadael bwlch awyru o 50mm) ac islaw iddynt.

Mae risg uwch o anwedd yn y to wrth ddefnyddio’r byrddau hyn ac felly mae’n rhaid cymryd mwy o ofal wrth osod. Mae gosod tâp rhwng byrddau, rhwng ymylon byrddau a thrawstiau ac unrhyw strwythurau wal yn hanfodol ac mae angen i’r tapiau hyn fod o ansawdd eithriadol o uchel, gyda’r gallu i bara degawdau.

Mae cynnwys rhywfaint o ‘fàs thermol’ fel rhan o’r project o fantais gan fod hyn â gwerth ‘lleihad’ – h.y. mae’n amsugno gwres yn ogystal â’i arafu. Mae hwn o fudd yn yr haf am ei fod yn lleihau ‘gwres brig’ yn y llofft a gall hwn fod yn bwysig os oes rhywrai yn yr ystafell.

Am fwy o gyngor ar insiwleiddio trawst a hefyd yr hybrid insiwleiddio cysylltiedig ‘Ystafell yn y To’ ewch i: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1045178/retrofit-room-in-roof-insulation-best-practice.pdf

Rhannwch...