
Solar

Solar
Nid oes unrhyw gymhorthdal am osod paneli solar PV, ond maen nhw’n gallu bod yn fuddsoddiad da beth bynnag, heb gymhorthdal.
Yn gyffredinol, y rheol yw, os oes gennych dô da sy’n wynebu’r de ac yn debygol o ddefnyddio cyfran uchel o’r trydan PV sydd wedi ei gynhyrchu ar y safle, yna mae paneli PV yn debygol o fod yn fuddsoddiad da. Os ydych yn anhebygol o ddefnyddio llawer o’r trydan a gynhyrchir (e.e. mae’r tŷ yn wag yn ystod y dydd gyda phawb allan yn y gwaith) yna byddai paneli solar PV yn fuddsoddiad gwael heblaw ei fod wedi ei gyplu gyda pheth storio.
Byddai gosodiad domestig arferol oddeutu 4 kWp. Byddai hyn yn llenwi ardal o oddeutu 25 metr sgwâr ac yn cynhyrchu ychydig o dan 4,000 kWa fesul blwyddyn o drydan. Byddai unrhyw drydan y gallwch ddefnyddio ar y safle werth tua 35c/kWa i chi (er mwyn disodli eich defnydd o drydan y grid). Byddai unrhyw drydan nad ydych yn defnyddio yn cael ei allforio i’r grid ac mae’n bosib y bydd eich cyflenwr trydan yn cynnig tua 5c/kWa amdano (mae hwn yn ôl yr SEG neu’r Smart Energy Guarantee, mae gwahanol gyflenwyr yn cynnig gwahanol brisiau).
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am SEG yn: https://www.ofgem.gov.uk/environmental-and-social-schemes/smart-export-guarantee-seg
Dŵr Poeth Solar
Mae paneli solar thermol yn dda i ddarparu dŵr poeth. Ond, nid yw prisiau paneli solar thermol wedi gostwng cymaint â phaneli solar ffotofoltäig, ac felly os yw’r lle’n gyfyngedig ar eich to, yna buasem yn argymell eich bod yn canolbwyntio ar osod cymaint o baneli ffotofoltäig ag y gallwch eu fforddio ar y to. Os oes lle dros ben ar eich to, ac rydych yn defnyddio llawer o ddŵr poeth, efallai y byddai’n werth gosod paneli solar thermol.
Gallwch ddefnyddio’ch paneli solar ffotofoltäig i greu dŵr poeth. Gallwch osod dyfais sy’n gwybod os yw’ch paneli ffotofoltäig yn allgludo pŵer i’r grid, ac os felly, gall ei ddargyfeirio at eich tanc dŵr poeth, gan gynhesu eich dŵr am y pris y byddech wedi ei gael am allgludo’r pŵer (yn rhad ac am ddim os ydych ar y Tariff Cyflenwi Trydan, am werth y Warant Ynni Clyfar (SEG), fel arfer tua 5c/kWh os ydych wedi eu gosod ar ôl i gynnig y Tariff Cyflenwi Trydan ddod i ben). Gweler https://myenergi.com/product/eddi/ neu’r Immersun https://www.immersun.co.uk/all-products/immersun.
Batris
Mae’n weddol syml cyfrifo cyllid batris a faint o amser y bydd yn ei gymryd iddynt dalu ffordd, ac rydym yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i chi er mwyn eich helpu i ddod i’r penderfyniad hwn.
Y data pwysicaf i chi eu hystyried ynghylch system fatri yw’r capasiti, sy’n cael ei fesur mewn kWh, a hyd y warant. Wrth i chi gyfrifo faint o amser y bydd yn ei gymryd cyn i’r batri dalu ffordd, byddem yn argymell i chi ddefnyddio hyd y warant yn unig, oherwydd ni allwch fod yn sicr y bydd yn gallu cael ei gynnal ar ôl y pwynt hwn. Fel arfer, mae cyfnodau gwarant yn 10 mlynedd.
Fe gymerwn ni enghraifft o fatri sydd â chapasiti o 1 kWh. Os yw’ch paneli solar yn cynhyrchu mwy o drydan nag yr ydych yn ei ddefnyddio ar y pryd, gallech storio 1 kWh y dydd, i’w ddefnyddio yn y nos wedi i’r haul fachlud. Bydd hyn yn arbed tua 30c i chi (ar sail y prisiau ar hyn o bryd) oherwydd byddwch yn prynu 1 kWh yn llai o’r grid. Os ydych ar y Tariff Cyflenwi Trydan, mae’n seiliedig ar ragdybiaeth o’r trydan yr ydych yn ei allgludo, ac felly ni fyddwch yn cael llai o arian os ydych yn defnyddio mwy o’r trydan a gynhyrchwyd ar y safle trwy baneli ffotofoltäig; felly ni fydd yn newid yr hyn a gewch am allgludo. Os ydych wedi gosod eich paneli ar ôl i’r cynnig Tariff Cyflenwi Trydan ddod i ben, byddwch ar y Warant Ynni Clyfar (SEG), ac felly cewch tua 5c/kWh am unrhyw bŵer sy’n cael ei allgludo. Felly byddwch yn colli hyn am yr 1 kWh yr ydych yn ei storio yn y batri.
Felly yn ymarferol, byddwch yn arbed tua 30c y dydd am bob kWh o gapasiti os ydych ar y Tariff Cyflenwi Trydan, neu 25c os ydych wedi gosod eich paneli ar ôl i gynnig y Tariff Cyflenwi Trydan ddod i ben.
Ni fyddwch yn gallu storio kWh o bŵer bob dydd o’r flwyddyn, oherwydd yn y gaeaf efallai na fydd yr haul yn tywynnu. Mae’n anodd amcangyfrif sawl diwrnod y byddwch yn gallu gwefru’r batri’n llawn, a byddai’n dibynnu ar gapasiti eich batri, ond, er enghraifft, os bydd eich paneli wedi llwyddo i wefru’ch batri ¾ y flwyddyn (273 o ddiwrnodau) byddai’n arbed £81/flwyddyn i chi (£68 y flwyddyn os ydych wedi gosod y paneli ar ôl i’r cynnig Tariff Cyflenwi Trydan ddod i ben).
Dros ddeng mlynedd, felly, byddwch yn arbed £810 neu £680.
Mae’n costio tua £500/kWh i osod batris ar hyn o bryd felly ar sail y ffigurau hyn mae’n ymddangos y byddai’n ymarferol. Cofiwch, os byddem yn dychwelyd at y prisiau a oedd gennym 6 mis yn ôl (20c/kWh i fewngludo, 5c SEG) mae gwerth pob kWh yn 15c os nad ydych ar y Tariff Cyflenwi Trydan, felly mae’r gwerth blynyddol tua £40/kWh, neu £400 dros 10 mlynedd, ac felly ni fyddech ar eich ennill.
Os yw’r prisiau trydan yn aros yn uchel yn y tymor hir, yna mae’r ffigurau hyn yn awgrymu y byddai batri yn fuddsoddiad da. Ond os yw’r prisiau’n dychwelyd yn fwy agos at 20c/kWh yna byddai’r enillion yn denau.
