Wedi'i bostio ar

Rydym yn recriwtio Aseswyr ôl-osod a Chydlynwyr

Rydym yn recriwtio Aseswyr ôl-osod a Chydlynwyr

Mae Cartrefi Clyd yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn Ôl-osod i ddod yn Aseswyr Ôl-osod.

Mae Cartrefi Clyd yn bartneriaeth o fentrau cymdeithasol ledled Cymru, dan arweiniad Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE) sydd bellach yn darparu cyngor ôl-osod proffesiynol diduedd ledled Cymru, ar hyn o bryd yn bennaf trwy gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru (Green Homes Wales).

Mae gennym rwydwaith o Aseswyr Ôl-osod ledled Cymru sy’n cynnal yr arolygon fel rhan o’r broses hon. Yna caiff y data a gesglir gan yr aseswr ym mhob arolwg tŷ ei fwydo’n ôl i’n Cydlynwyr Ôl-osod i’w ysgrifennu mewn adroddiad ôl-osod proffesiynol ar gyfer y cleient.

Rydym yn chwilio am fwy o Aseswyr Ôl-osod i ymuno â’r cynllun ac i’n helpu i wneud ein sylw’n gyflawn ledled Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn hyrwyddo ôl-osod, a allech chi fod â diddordeb mewn hyfforddi fel Aseswr Ôl-osod a’n helpu i ddarparu’r cyngor hwn?

Nid yw hyfforddi fel Aseswr Ôl-osod yn feichus, yn y bôn mae’n Aseswr Ynni Domestig gwell (DEA). Os oes gennych ddiddordeb o bosibl yn hyn, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy ar info@cartreficlyd.cymru neu ar 01239 920097.

Ar hyn o bryd, byddai’r gwaith yn rhan-amser ac yn dibynnu ar y galw, ond mae galw mawr am sgiliau ôl-osod ac mae’n debyg mai dim ond cynyddu fydd maint y math hwn o waith. Mae opsiwn ar gyfer rôl amser llawn yng Ngogledd-orllewin Cymru.

Rydym yn arbennig o brin o Gydlynwyr Ôl-osod yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, ond mae potensial ar gyfer y gwaith hwn lle bynnag yr ydych yng Nghymru.

Byddem hefyd â diddordeb mewn clywed gan Gydlynwyr Ôl-osod sydd â diddordeb mewn ein helpu i gyflwyno ein cyngor. Mae hwn yn ofyniad hyfforddi mwy datblygedig i ddod yn Gydlynydd Ôl-osod, ond os ydych eisoes yn Gydlynydd Ôl-osod, neu’n meddwl bod gennych gefndir a fyddai’n eich gwneud yn addas ar gyfer y rôl hon, cysylltwch â ni.

Wedi'i bostio ar

Ôl-osod yn y tymor hir: Pam ei fod yn werth y buddsoddiad

Ôl-osod yn y tymor hir: Pam ei fod yn werth y buddsoddiad

Ydych chi’n byw yn eich cartref am oes? Sut ydych chi’n gweld eich bywyd a’ch ffordd o fyw yn y blynyddoedd i ddod? Ydych chi eisiau byw yn fwy cynaliadwy?

Dyma’r cwestiynau y dylai’r rhai sydd am ddechrau eu taith ôl-osod ofyn iddynt eu hunain. Mae ôl-osod eich cartref yn brosiect hirdymor – mae uwchraddio eich defnydd inswleiddio, systemau awyru, ffenestri, cynhyrchydd ynni a mwy yn cynnig manteision pellgyrhaeddol wrth i ni symud tuag at ddyfodol gwahanol.

Mae ôl-osod – y broses o wella’ch cartref fel ei fod yn gweithio’n well i chi o ran ynni, ansawdd aer a chynhesrwydd – yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.

Mae nid yn unig yn rhoi hwb i fywoliaeth eich cartref, mae’n lleihau ei effaith amgylcheddol ac yn cryfhau ei wydnwch ar gyfer y dyfodol. Mae’n caniatáu ichi gymryd rheolaeth o’ch defnydd o ynni, sy’n golygu na fyddwch chi’n cael eich effeithio gymaint gan farchnad ynni anweddol, ac yn y diwedd mae’n caniatáu ichi ddod yn llai dibynnol ar gwmnïau ynni mawr, echdynnol er mwyn byw eich bywyd.

Mae buddsoddi mewn ôl-osod yn ymwneud â chreu cartref sy’n gweithio’n well i chi, yr amgylchedd, a chenedlaethau’r dyfodol—un sydd nid yn unig yn goroesi, ond sy’n ffynnu, am flynyddoedd i ddod.

Fodd bynnag, mae cymryd yr amser a’r buddsoddiad ariannol mewn ôl-osod eich eiddo yn gam mawr, a gall y swm enfawr o wybodaeth sydd ei hangen fod yn llethol. Dyna pam mae Cartrefi Clyd yma, i gynnig cyngor annibynnol, arbenigol a’ch tywys drwy’r broses.

Cysylltwch â ni heddiw i archebu eich asesiadau ôl-osod annibynnol pwrpasol gan un o’n tîm arbenigol o aseswyr.

Os ydych chi wedi dod o hyd i’ch cartref am oes – gwnewch eich bywyd yn well gyda Cartrefi Clyd.

Wedi'i bostio ar

Beth yw Ôl-osod a Sut Fedrith e Drawsnewid eich Cartref

Beth yw Ôl-osod a Sut Fedrith e Drawsnewid eich Cartref

Mae’n ddiwedd Chwefror. Erbyn hyn mae eich cartref wedi profi pedwar mis o dymhereddau oer ac hinsawdd gwlyb. Efallai eich bod chi wedi ei deimlo – drafftiau oerach, biliau drytach, cyddwysiad ar eich ffenestri.

I nifer, mae hwn yn rhan o fyw mewn tŷ yng Nghymru – realiti gaeafau oer a gwlyb, a stoc dai sydd ymhlith y lleia effeithlon yng ngogledd Ewrop. Fodd bynnag, does dim angen i bethau bod fel hyn. Does dim angen i’ch cartref fod mewn brwydr gyson yn erbyn yr elfennau. Gallwch ôl-osod eich cartref – a gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch bywyd.

Ôl-osod yw’r broses o wella eich cartref i’w wneud mor iach, cyfforddus ac effeithlon i’r amgylchedd ag sy’n bosib. Mae’n debyg i adnewyddu tŷ, ond rydych chi’n blaenoriaethu a chanolbwyntio ar bethau sydd am wneud eich cartref i weithio’n well i chi; dim drafftiau, digon o awyr iach, a rheolaeth go iawn dros eich defnydd ynni.

Gyda gwasanaeth Cartrefi Clyd, bydd un o’n haseswyr ôl-osod arbenigol yn ymweld â’ch cartref ac yn siarad drwy’r hyn sy’n bosib i wneud er mwyn gwireddu ei botensial. Gallai hyn gynnwys insiwleiddio newydd, gwella ffenestri, gosod pympiau gwres adnewyddadwy, defnyddio teclynnau effeithlon o ran ynni, neu osod ynni adnewyddadwy. Mae pob cartref yn wahanol, a bydd y mesurau rydych chi eu hangen yn unigryw i chi. Bydd Cartrefi Clyd yn ystyried sut yr ydych chi’n byw yn eich cartref, a sut hoffech chi fyw yn eich cartref.

Mae ôl-osod yn fuddsoddiad hir-dymor i wella eich safon bywyd. Bydd yna gostau o flaen llaw i weld y prosiect i’w derfyn, ond bydd gwneud hynny’n galluogi chi i gael rheolaeth dros eich defnydd ynni, a chael eich ynysu o unrhyw sgytwadau yn y farchnad ynni.

Y cam cyntaf yw i archebu asesiad ar gyfer eich cartref. Dyma sut fyddwch chi’n gwybod pa gamau fydd angen i chi gymryd, sut i gymryd nhw, a phryd. Bydd ein tîm yn fwy na pharod i’ch tywys drwy’r broses.

Cofiwch, nid oes angen i chi deimlo oerfel a glaw’r gaeaf yn eich cartref  – gallwch ôl-osod!

Cysylltwch â ni i archebu eich asesiad nawr.

Wedi'i bostio ar

Holi’r Asesydd: Peter Kay

Holi’r Asesydd: Peter Kay 

Sut wyt ti wedi gweld dy fisoedd cyntaf di fel asesydd ynni?

Dw i wir wedi mwynhau bod mas yn y gymuned, yn cwrdd â phobl yn eu cartrefi ac yn ymweld a llefydd prydferth a diddorol yn Sir Benfro.

Dw i wedi gweld bod perchnogion tai yn gwerthfawrogi dull Cartrefi Clyd o wneud pethau. Maent wir yn gweld y gwerth yn ein gwasanaeth personol – ac eisiau clywed sut i leihau ôl-troed carbon eu cartrefi tra’n eu gwneud yn fwy clyd ac yn rhatach i’w gwresogi.

Beth wyt ti wedi dysgu nad oeddet ti’n ei ddisgwyl cyn dechrau?

Mae’r awydd i weithredu ar faterion amgylcheddol gan y gymuned wedi bod yn galonogol.

Ro’n i ychydig yn naîf o bosib, gan feddwl byddai’r newidiadau’n cael eu gyrru rhan fwyaf gan fuddion ariannol, a lleihau costau gwres. Yn amlwg, mae’r ochr ariannol yn ffactor i gleientiaid, ac mae’r adroddiadau’n bendant yn cyfeirio at sut i ddelio gyda chostau cynyddol ynni. Ond dw i wedi siomi ar yr ochr orau gan weld mai cymhelliant cynifer o bobl yw i leihau allyriadau carbon. Mae wedi bod yn bleser i fod yn rhan o wasanaeth sydd yn gosod hyn allan i fy nghymuned.

Pam oeddet ti eisiau dechrau’r gwaith hwn?

Er mwyn gwneud gwahaniaeth! Gyda theulu sy’n tyfu, dw i wedi dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o effaith ein defnydd ynni presennol, a beth mae hwn yn meddwl tra’n paratoi at y dyfodol. Dw i hefyd â diddordeb go iawn mewn darparu cymunedau gyda chyngor a datrysiadau annibynnol ar gyfer eu hanghenion ynni.

Mae cynnig cyngor ôl-osod yn un ardal fedra i wneud gwahaniaeth oddi fewn. Pan ddaeth y siawns i ymuno â thîm proffesiynol Cartrefi Clyd, wnes i neidio a byth edrych yn ôl!

Ydy dy berthynas ag ynni wedi newid? Neu’r dull rwyt ti’n defnyddio dy gartref? Beth am dy gymuned?

Ydy, yn llwyr! Yn y gorffennol dw i wedi aros oddi ar y grid o dro i dro, ac fe wnaeth y profiadau hynny ddatblygu fy nghysylltiad gyda chynhyrchu ynni. Os wyt ti’n byw o dan yr amodau yna, mae rhaid ti fod yn ymwybodol o faint o ddŵr sy’n rhedeg, faint o wynt sy’n chwythu, os ydy hi’n heulog neu beidio. Yn yr amgylchiadau yna, mae cyfyngiadau ar yr ynni sy’n bosib i chi ddefnyddio, a pha amser o’r diwrnod y mae’n bosib i chi ei ddenfyddio.

Nid yw pawb eisiau byw yn yr eithafion yna fodd bynnag – mae nifer o bobl eisiau eu cartrefi fod yn llefydd haws, cynhesach, clydach i fyw ynddynt. Ond mae’r profiad hwnnw, ac wedyn bod yn rhan o Gartefi Clyd wedi crisialu’r syniad bod ynni’n dod o rywle. Mae arbed ynni wedi dod yn rhan anatod o’r hyn dw i’n ei wneud gartef ac yn y gymuned dw i’n rhan ohoni.

Pryd wnes di ddechrau cymryd diddordeb mewn canfod datrysiadau i newid hinsawdd?

Gan fy mod i’n byw yng Ngorllewin Cymru, rhan hyfryd o’r byd, dw i’n canfod fy hun yng nghanol nifer o arloeswyr mewn datrysiadau amgylcheddol. Un arloeswr o’r math yw Cwm Arian Renewable Energy, cwmni budd cymunedol gyda thyrbin gwynt sy’n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd ar gyfer 450 o dai. Yn ogystal, maent yn ymgymryd â nifer o brosiectau amgylcheddol sydd wedi’u teilwra i’r cymunedau maent yn rhan ohonynt.

Beth yw’r cyngor rwyt ti’n ei gynnig fwyaf i bobl sydd wedi cael asesiad?

Cymerwch eich amser yn darllen yr adroddiad! Maent wedi cael eu hysgrifennu gan gydlynydd ôl-osod cymhwysiedig. Mae tipyn o wybodaeth dechnegol – ond y ffrodd orau i’w ddisgrifio yw fel cynllun canol-dymor i wella eich cartref. Edrychwch arno fel y camau cyntaf i wneud eich cartref yn glyd, rhatach i’w wresogi ac yn well i’r amgylchedd.

Cofiwch ynghyd ag insiwleiddio, mae awyru’n bwysig hefyd – peidiwch â chael eich lleddfu! Torrwch y peth i lawr.

Pam wyt ti’n meddwl bod Cartrefi Clyd yn cynnig rhywbeth gwahanol? 

Proffesiynoldeb! Yr amser ry’n ni’n ei dreulio gyda chleientiaid, y cyngor annibynnol a’r manylder i’w hanghenion a’u cartrefi.

Hanfod Cartrefi Clyd yw Cwmnïau Budd Cymunedol ledled Cymru – ry’n ni’n bartneriaeth o sefydliadau wedi’u gosod yn ein cymuned, sy’n gweithio o fewn ein cymuned. Mae’n amhosib gorbwysleisio gwerth hyn.

Wedi'i bostio ar

Pump rheswm da i ôl-osod fy nhŷ… a pheidio prynu cwch

Pump rheswm da i ôl-osod fy nhŷ… a pheidio prynu cwch

Ystyried ôl-osod eich cartref, ond yn teimlo’n ansicr? Mae ôl-osod eich cartref yn fuddsoddiad, mae’n gofyn am amser, egni ac arian. Ond ydy’r buddion o wneud hynny yn fwy na phrynu rhywbeth mwy moethus – rhywbeth fel cwch efallai? Wedi’r cyfan, mae’r gost o ôl-osod fy nhŷ tua’r un faint, felly pam lai? Dyma 5 rheswm i ôl-osod fy nhŷ a pheidio prynu cwch.

1.Cost tanwydd

Mae gan ein tŷ wres canolog nwy sydd oddi ar y grid a lle tân sy’n derbyn coed a glo yn yr ystafell fyw. Mae fy ngwraig a minnau’n gweithio o gartref mewn dwy ystafell ar wahân, ac nid oes gan y naill na’r llall unrhyw wres o gwbl. Mae’n iawn yn yr haf gan ei bod hi’n gynnes braf, a does dim angen gwres, ond mae meddwl am brynu potel arall o nwy am £100 y tro yn fy ngwneud i’n sâl. Roedd potel yn costio £28 ddim yn hir iawn yn ôl. Mi fydd yn para ychydig wythnosau os byddwn ni’n rhoi’r gwres i fynd am awr yn y bore ac awr gyda’r nos, ac yn cael cawodydd neu fath. Ar droeon eraill bydd rhaid i ni oddef bod yn oer.

Mae glo a choed tân yr un peth. Mae llosgi lympiau o garbon am £100 ar gyfer tua pedwar bag, fydd yn para tua pedair wythnos fel bod ein stafell fyw yn gallu bod yn gynnes am ychydig oriau’n unig, yn dda i ddim.

Efallai y dylen ni symud i Sbaen a bod yn gynnes, ond ’da’n ni’n eitha licio Caernarfon!

2.Ble mae fy arian i’n mynd?

Pan dw i’n prynu botel o nwy o Calor i gynhesu fy nghartref i, ble mae’r arian yna’n mynd? O ble mae Calor yn cael eu nwy? Ar ôl ychydig o ymchwil cyflym, mae’n ymddangos fel bod Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG) naill ai’n cael ei gynhyrchu yn un o 6 burfeydd olew y DU, neu’n cael ei fewnforio i un o’i 5 pwynt mewnforio. Dosberthir symiau mawr o LPG yn uniongyrchol at ganolfannau dosbarthu ledled y wlad. Golyga hyn fod fy arian yn mynd at burfeydd olew, a chwmnïau olew anferthol sydd efallai neu efallai ddim yn talu trethi teg yn y Deyrnas Gyfunol. Dull da o wario arian?

3.Hunan-gynaliadwy?

Oni fyddai’n braf gallu defnyddio byd natur i greu’r holl ynni ry’n ni eisiau yn ein bywyd bob dydd? Ni fyddai angen prynu nwy na glo na phetrol byth eto. Byswn i’n gallu rhoi paneli solar ar fy nho a gosod batri. Gallai’r haul wefru’r batri yn ystod y dydd, ac yn y nos, gallwn ni gael y gwres ymlaen (wedi’i bweru gan bwmp gwres), cael bath twym, gwylio’r teledu a byw ein bywydau – a’r cyfan yn dod o’r batri. Gallwn ni hyd yn oed gael car trydan a gwefru hwnnw hefyd. Gall ein tŷ fod yn bwerdy – a gallwn ni waredu’r boteli Calor yna a dod yn hunan-gynaliadwy. Dim mwy o filiau!

4.Yr Amgylchedd

Wnaeth unrhyw un wylio “Colli Cymru i’r Môr” yn ddiweddar ar S4C? Roedd yn rhaglen ryfeddol, a dw i’n ei hargymell yn fawr. Dywedodd bopeth sydd angen i chi ei wybod am yr amgylchedd a lle’r ydyn ni gyda charbon. Yn fyr, dylem ni fod yn mynd mewn i oes ia newydd, a dylai ein planed fod yn oeri, ond mae’r gwrthwyneb yn digwydd.  Mae’r blaned yn cynhesu oherwydd bod yr haen osôn sy’n diogelu ein amgylchedd yn teneuo ac yn galluogi rhagor o belydrau poeth o’r haul i gyrraedd y tir. Mae hyn yn arwain at gapiau polar yn toddi, tanau a sychder. Mae hyn i gyd wedi cael ei achosi gennym ni’n llosgi tanwyddau ffosil. Mae’r swm o garbon yn yr awyr wedi bron â dyblu mewn tua 200 mlynedd, a bydd pethau ond yn gwaethygu os ydyn ni’n parhau ar y trywydd rydyn ni.  

Dw i’n aml yn meddwl beth fydd pobl ymhen 500 mlynedd yn ei feddwl amdanom ni’n llosgi ein planed ein hunain tra bod ynni am ddim bob man o’m cwmpas.

5.Ydw i eisiau cwch, go iawn?

Wel, i fod yn on onest, ydw. Dw i dal eisiau cwch. Ond ys ydw i’n edrych i mewn i ba cwch y dylwn i brynu, dw i’n dod nôl at y ddaear fel petai. Wedi’r cyfan mae injan petrol 8 litr yn gallu neud tua 2 filltir i’r galwyn – nid y peth mwyaf e ffeithlon o ran tanwydd. Efallai y bysen i’n gallu ei roi yn yr ardd er mwyn eistedd ynddo.  

Ydw, dw i’n bod bach yn wirion. O ddewis, fysai’n well gen i fod yn gynnes a chyfforddus yn y gaeaf gan ddefnyddio fy ynni fy hun wedi’i gynhyrchu gan fy mhaneli solar fy hun a pheidio â chefnogi cwmnïau tanwydd ffosil anferthol sy’n gwneud eu ffortiwn o bobl gyffredin sydd angen cynhesu eu tai a’u teuluoedd.

Ond lle ydw i’n dechrau? Dylwn i brynu paneli solar, pympiau gwres, dechrau insiwleiddio?

Heb gyngor iawn, bydd yr arian fyswn i’n ei wario yr un mor wastraffus â’r syniad yna am gwch.  

Dyma’r rheswm pam mai Cartrefi Clyd yw’r cam cyntaf mewn ôl-osod. Maent yn arbenigwyr yn y maes, maent yn gallu asesu fy nghartref a darparu adroddiad sydd wedi’i deilwra i fi a sut dw i eisiau byw. Maent yn gallu darparu llwybr clir sy’n lleihau’r risgiau, ac yn sicrhau fy mod i’n gwario fy arian yn ddoeth.

Os ydych chi fel fi, ac yn ystyried ôl-osod eich cartref, gallwch ddechrau arni drwy archebu asesiad drwy Cartrefi Clyd.

Wedi'i bostio ar

“Mae Cartrefi Clyd yn Cynnig Rhywbeth Unigryw” – Dewi Williams, Cydlynydd Prosiect

“Mae Cartrefi Clyd yn Cynnig Rhywbeth Unigryw” – Dewi Williams, Cydlynydd Prosiect

Dw i wedi bod eisiau gweithio yn y sector gwyrdd cymunedol ers tipyn, gan ddilyn gwaith Ynni Cymunedol Cymru, YnNi Teg, Datblygiad Egni Gwledig a grwpiau lleol eraill i mi yng Nghaernarfon. Dw i wastad wedi cael fy nharo gan y gwerthoedd sy’n rhan o’u gwaith – cydweithio, rhoi pobl yn gyntaf, a gweithio nid-er-elw.

Mae cael y cyfle i ymuno â thîm Cartrefi Clyd wedi dod ar yr amser gorau i mi. Mae’n teimlo fel cyfle unigryw ar gyfer yr hyn sy’n digwydd heddiw. Rydym yn gweld y sector ynni’n datblygu’n gyflym ynghyd ag effaith andwyol tanwyddau ffosil ar biliau ynni. Does gennym ni ddim dewis amgen ond i fod yn fwy effeithlon o fewn ein cartrefi a defnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer defnydd bob dydd. Rydym eisiau i gymunedau Cymru bod yn fwy hunan-gynhaliol ac yn llai dibynnol ar ffynonellau ynni allanol. Yn anffodus, nid oes llawer o gefnogaeth ar gyfer cartrefi a theuluoedd a chymunedau i wneud hyn, felly dyma yw bwriad Cartrefi Clyd.

Pan welais i brosiect Cartrefi Clyd am y tro cyntaf, roedd popeth yn gwneud synnwyr. Rwy’n weithgar yn fy nghymuned leol fel cadeirydd pwyllgor y neuadd bentref, ac rwyf wedi cael cynigion nifer o weithiau i wella’r adeiladau drwy gynllun ECO4. Yn anffodus, fel nifer o rai eraill, nid ydym yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth.

Mae mwy a mwy ohonom yn ystyried sut fedrwn ni leihau ein hôl-troed carbon wrth i enghreifftiau o’u heffeithiau erchyll luosogi bob blwyddyn. Ond mae’r bwlch mewn darpariaeth a chyngor ar gyfer y rheiny ohonom sydd eisiau cymryd camau i ddatgarboneiddio ein cartrefi wedi gadael nifer heb gyfeiriad. 

Dyma sy’n gwneud Cartrefi Clyd yn wahanol. Mae’n bosib bod rhai wedi clywed am brosiectau ôl-osod blaenorol sydd heb gymryd y gofal sydd gennym ni yn Cartrefi Clyd, gan arwain at niwed i gartrefi a rhagor o gostau drud i bobl. Mae ein haseswyr yn ystyried pob rhan o gyd-destun y cartref – ei leoliad, beth yw’r hinsawdd sy’n ei amgylchynu, sut mae pobl yn byw ynddo, y deunyddiau mae wedi adeiladu ohonynt, ac ystod eang o ffactorau eraill. Maent wedi cymhwyso’n llawn, ac yn byw ac yn gweithio’n lleol i’r ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu – Carnarfon, Hermon (Sir Benfro), Caerdydd a’r Drenewydd ar hyn o bryd. Ein gobaith yw i ehangu ein gwasanaeth fel bod mwy o’n cymunedau ni’n gallu gwneud y mwyaf o’n gwasanaethau.

Rydym yn annibynnol, ac wedi ein ffurfio o sefydliadau cymunedol mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Dyma pam rwy’n credu bod Cartrefi Clyd yn darparu rhywbeth unigryw.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu asesiad ôl-osod ar gyfer eich cartref, cysylltwch â ni, ac fe wnawn ni drefnu cael asesydd i gysylltu â chi.